Canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf yn ysgogi Neges Heddwch
- Cyhoeddwyd

Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi ysgogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 2016.
'Dewis a Chydwybod' yw'r teitl eleni ac mae hi wedi ei chreu gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug.
Cafodd y grŵp hefyd gefnogaeth Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a phrosiect Cymru Dros Heddwch.
Mae'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blynyddol sy'n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.
Yn ôl yr Urdd mae pobl ifanc Sir y Fflint yn rhannu delwedd â'r byd "bod angen adeiladu wal o heddwch, lle mae pob bricsen yn cyfrif a'r weithred o adeiladu'r heddwch yn pwysleisio bod pob dewis yn cyfrif".
Mae'r 23 o'r disgyblion yn holi'r cwestiwn i weddill ieuenctid ledled y byd 'Wyt ti am gyd-adeiladu efo ni?'
Bydd hi''n cael ei chyflwyno o flaen disgyblion cynradd Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, brynhawn Mercher.
Ieithoedd
Mae'r neges wedi ei chyfieithu i 27 o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, Manaweg a Chatalaneg.
Am y tro cyntaf eleni, bydd poster o'r neges ar gael mewn pum iaith hefyd, sef Cymraeg, Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg ac Arabeg.
Bu Anni Llŷn yn gweithio gyda'r disgyblion i greu'r neges mewn sesiynau creadigol arbennig yn ôl ym mis Hydref llynedd.
Dywedodd: "Mi wnaethon ni waith trafod ac ymchwil i ddewisiadau pobl mewn bywyd, ac edrych ar wrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y criw yn teimlo'n gryf bod heddwch hefyd yn ddewis.
"Wrth gael 'brainstorm' greadigol, daeth un o'r criw â'r ddelwedd o wal o heddwch i'r wyneb. Dyma ddatblygu ar y syniad i greu'r ddelwedd gref yn y Neges bod adeiladu wal yn golygu bod pob bricsen yn cyfrif, yn union fel y broses o sicrhau heddwch ledled y byd."