Cynghorydd Gwynedd yn ymddiswyddo wedi achos llys

  • Cyhoeddwyd
BealFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Chris O'Neal yn gynghorydd annibynnol ar ward Marchog

Mae cynghorydd wedi ymddiswyddo o Gyngor Gwynedd ar ôl cyfaddef iddo ymosod ar ddyn.

Roedd Christopher O'Neal, 38 o Dal-y-Bont, Bangor, wedi ei gyhuddo o dagu David Williams yn ei swyddfa dacsi ym Methesda fis Ionawr diwethaf.

Yn Llys Ynadon Caernarfon ar ddydd Gwener 13 Mai, fe wnaeth O'Neal gyfaddef ymosod ar y dyn, yr oedd yn ei gyflogi fel gyrrwr tacsi.

Cafodd orchymyn i gwblhau 200 awr o waith di-dâl, talu costau o £210 a iawndal o £150.

Ar ddiwedd yr achos dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn ymwybodol bod y cynghorydd O'Neal wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ymosod a'i fod wedi ei ddedfrydu am y drosedd.

"Mae hwn yn amlwg yn fater difrifol i aelod etholedig a bydd y cyngor yn gweithredu ar frys er mwyn ymateb i hyn."