Y gwirionedd hallt
- Cyhoeddwyd

Ddylet ti ddim bwyta gormod o hwnna! Mae'r drafodaeth am beth sy'n iach i'w fwyta yn un ry'n ni'n ei chlywed yn aml dros y blynyddoedd. Ond yw diet y Cymry wedi newid gymaint â hynny er gwaetha'r rhybuddion a'r cynghorion cyson?
Mae Mared McAleavey o Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan wedi astudio bwydydd ac arferion bwyd y Cymry dros yr oesoedd.
Peidiwch â beio'r gorffennol
Fe glywn yn aml bobl yn disgrifio problemau gordewdra heddiw fel rhai sydd yn codi o'n harferion bwyta ni yn y gorffennol, pan roedd Cymru'n llawn amaethwyr, chwarelwyr a glowyr ac yn bwyta bwyd hallt, llawn braster.
Ond a oedden nhw'n iachach mewn gwirionedd? Un peth sy'n sicr, roedd y dewis yn symlach - doedd ganddyn nhw mo'r arlwy anhygoel o fwydydd sydd gennym ni heddiw, nac ychwaith yr holl gynghorion sy'n aml yn mynd yn groes i'w gilydd. Roeddynt yn ddibynnol ar gynnyrch eu tir ac yn bwyta'r hyn oedd ar gael iddynt ar stepan eu drws.
Cysondeb dros y canrifoedd
Ar ei daith drwy Gymru yn 1188, nododd Gerallt Gymro mai sylfaen ein diet oedd cig, ceirch, llaeth, caws a menyn. Ceir cadarnhad yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym 1896, nad oedd pethau wedi newid rhyw lawer. Roedd mwyafrif y boblogaeth yn ddibynnol ar gig wedi ei halltu a'i sychu, llysiau cartref, cynnyrch llaeth a bwydydd llwy yn seiliedig ar geirch.
Yn ôl y dystiolaeth hanes llafar sydd ar gof a chadw yn yr Archif Sain yn Sain Ffagan, byddai brecwast gan amlaf yn cynnwys uwd, bara, bara ceirch, bara llaeth neu frŵes, wedi ei wneud o geirch a llaeth.
I nodi'r penwythnos, efallai y byddent yn mwynhau bacwn ac wyau i frecwast. Yr hyn sy'n ddifyr yw bod y patrwm yma wedi para gymharol debyg tan y 1980au. Yn ôl yr Arolwg Bwyd Cenedlaethol, yn ystod y 1960au i'r 1980au cynnar, y brecwast cyffredin fyddai te, tost, grawnfwyd a llefrith.
Lladd mochyn
Mae'n wir dweud fod y diet yn uchel mewn braster a halen, ond roedd hynny o reidrwydd. Yr unig ffordd i deulu cyffredin gael cig fyddai pesgi a lladd o leiaf un mochyn a halltu'r cig i'w cynnal am y flwyddyn. Ychwanegwyd halen at fenyn a chaws i'r un perwyl, er mwyn eu cadw rhag mynd yn ddrwg.
Mae halen dal yn amlwg iawn yn ein deiet, a'r broblem yn llawer gwaeth nag oedd i'n cyndeidiau. Gan fod mwyafrif eu bwydydd yn gynnyrch cartref, roeddynt yn gwybod yn union faint o halen oedd yn eu bwydydd.
Gyda'r cynnydd a'r dewis o ran y bwydydd parod, rydym ni wedi colli rheolaeth yn llwyr o ran gwybod faint o halen, brasder ac wrth gwrs siwgr sydd yn ein bwydydd.
Ysgwn i be fyddai ymateb ein cyndeidiau petaen nhw'n cael afocado i frecwast? Rhywbeth ddigon tebyg i'n hymateb ni o gael brŵes am wn i!