Llofruddiaeth Cwm Ogwr: Cyhoeddi enw dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 73 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu yng Nghwm Ogwr.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau yn dilyn marwolaeth Gwilym Jones rhywbryd rhwng dydd Sul a dydd Llun.

Mae dyn 49 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, a cheisio llofruddio dynes 21 oed.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Kath Pritchard: "Mae Cwm Ogwr yn gymuned glos lle mae achosion fel hyn yn brin iawn.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un welodd helynt yn ardal Oxford Court i gysylltu gyda ni."