Cyfle unigryw i fugeilio tir gwerth £1m ar Ben y Gogarth
- Cyhoeddwyd

Mae yna gyfle anarferol i unrhyw ddarpar fugail sydd a £1 yn ei boced i gael ei afael ar fferm gwerth £1m a bod yn gyfrifol am dirwedd unigryw yn y gogledd.
Y llynedd fe brynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Fferm y Parc a'r tir o'i gwmpas ar Ben y Gogarth ger Llandudno, gan fod yr elusen yn awyddus i warchod y tirwedd prin ond bregus.
Nawr mae'r ymddiriedolaeth am roi'r tir a'r fferm ar les am £1 am ddeg mlynedd er mwyn ceisio adfer y tir a sicrhau ei bod yn ffynnu.
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o rywogaethau a chynefinoedd prin, rhai nad ydyn nhw'n bodoli unman arall yn y byd.
Ond yn ôl rheolwr cyffredinol y safle, William Greenwood, mae angen math arbennig o ffermio er mwyn eu diogelu.
"Mae'n rhaid i'r math o bori gan anifeiliaid fod wedi ei gynllunio yn ofalus neu fydd y cynefinoedd bregus ddim yn ffynnu," meddai.
"Yn syml, mae angen llai o bori ar y tir gorau, a mwy o bori ar y tir nad sydd gystal."
Golyga hyn y bydd y gwaith o fugeilio yn fwy anodd a hyn ar dirwedd caled, tra bydd yn rhaid i'r person llwyddiannus hefyd ymdopi â tua 600,000 o ymwelwyr i Ben y Gogarth bob blwyddyn."
Yn ogystal â chael y cyfle i ffermio'r tir am £1, fe fydd y tenant newydd yn cael praidd o ddefaid wedi ei gynnwys yn y pris.
Dywedodd John Mercer, Cyfarwyddwr NFU Cymru: "Mae hyn yn cynnig cyfle cyffrous ond heriol iawn i rywun sydd am droi ei law at ffermio a chadwraeth."
Mae gan denant Fferm y Parc, safle 145 acr, hefyd yr hawl i bori ar 720 acer ar Ben y Gogarth.
Dywed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod nifer yn ystyried Pen y Gogarth yn un o'r pum safle pwysicaf ym Mhrydain o safbwynt botanegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2015