Tân yn dinistrio 18 o garafanau yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd
Mae 18 o garafanau wedi eu dinistrio yn llwyr a 13 arall wedi eu difrodi ar ôl tân mewn safle cadw yng Nghwmbrân.
Cafodd criwiau eu galw o Gwmbrân, New Inn, Maendy ac Aberbargod am 00:50 ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod diffoddwyr wedi cymryd dros awr i reoli'r tân.
Ychwanegodd eu bod yn credu fod y tân wedi dechrau yn ddamweiniol.