Dynladdiad bachgen: Un meddyg teulu yn ddieuog
- Published
Mae un o ddau feddyg teulu oedd wedi'u cyhuddo o ddynladdiad bachgen 12 oed o Flaenau Gwent wedi ei chael yn ddieuog.
Fe wnaeth y barnwr, Mrs Ustus Nicola Davies QC, gyfarwyddo'r rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd i ganfod Dr Lyndsey Thomas, 42 oed, yn ddieuog o ladd anghyfreithlon Ryan Morse o Frynithel ym mis Rhagfyr 2012.
Roedd Dr Thomas wedi ei chyhuddo o beidio gweithredu i atal marwolaeth y bachgen yn dilyn sgwrs ffôn gyda mam Ryan ar y diwrnod cyn iddo farw.
Wrth amddiffyn Dr Thomas fe wnaeth Ian Stern QC ddadlau'n llwyddiannus nad oedd digon o dystiolaeth i reithgor gael Dr Thomas yn euog o esgeulustod dybryd mewn perthynas â'i dyletswydd o ofal tuag at Ryan.
Mae camau cyfreithiol yn erbyn cydweithiwr Dr Thomas, Dr Joanne Rudling, yn parhau.
Dywedodd y barnwr: "Does dim achos i Dr Lyndsey Thomas ei ateb.
"Rwy'n cyfarwyddo rheithfarn ddieuog i'r cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd."