BBC Cymru Fyw

'Cyfnod cyffrous i seiclo' medd Doull wrth ymuno â Sky

Published
image copyrightGetty Images
image captionOwain Doull
Mae Owain Doull yn dweud ei fod yn gyfnod cyffrous i seiclo yng Nghymru, wedi'r newyddion y bydd e'n ymuno â thîm Sky y tymor nesaf.
Bydd Doull, sy'n 23 oed yn gadael tîm Sir Bradley Wiggins ar ôl y gemau Olympaidd yn Rio eleni.
Ma 'na ddau Gymro eisoes yn y tîm, sef Geraint Thomas a Luke Rowe.

Eisiau efelychu Geraint yn Rio

Wrth siarad a BBC Cymru o America, lle mae'n cystadlu yn ras y Tour of California ar hyn o bryd, dywedodd fod criw da o Gymru yn nhîm Sky erbyn hyn, a bod dylanwad Geraint Thomas arno'n enfawr: "Yn enwedig yr hyn mae e wedi ei gyflawni yn y classics yn y blynyddoedd diwethaf, fel Paris-Nice a'r Tour, ond hyd yn oed cyn hynny, tyfu lan yn gwylio yr hyn wnaeth e yn Beijing yn y ras ymlid i dimoedd pan oedd e'n 23 oed, a dwi'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y galla i ei efelychu eleni yn Rio.
"Ac yn amlwg, nid dim ond Geraint - mae'r hyn mae Luke yn dechrau ei gyflawni yn y classics, a bechgyn ifainc fel Scott Davies yn gwneud pethau mawr. Mae'n amser cyffrous i seiclo yng Nghymru."