Llais y Llywydd: Caryl Parry Jones
- Cyhoeddwyd

Caryl Parry Jones ydy Llywydd y Dydd ar ddiwrnod cynta' Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016. Bu Cymru Fyw yn ei holi am ei hatgofion am y mudiad.
Beth yw dy atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Dwi'n cofio mynd i Aberystwyth ym 1969 hefo'r ysgol roedd Mam yn dysgu ynddi ar y pryd ac aros yn Nhal y Bont gyda dwy chwaer o'r enw Dora a Pegi! Roedd mynd i aros yng nghartrefi pobl yn arferol am flynyddoedd ac mi gawson ni lawer o hwyl mewn Eisteddfodau wedi hynny yn cyfarfod å theuluoedd o'r ardal a chael croeso arbennig.
Wnes di erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?
Ro'n i'n cystadlu bob blwyddyn tra ro'n i yn yr ysgol. Do'n i ddim yn llwyddiannus iawn fel unawdydd - roedd fy llais yn rhy wan ac ro'n i'n arfer mynd yn swp sâl hefo nyrfs! Ond ro'n i wrth fy modd mewn partïon a chorau o bob math.
Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Y cyfleoedd mae'r Urdd yn rhoi i blant Cymru weld pob rhan o'n gwlad ni, cyfarfod å ffrindiau o bob cwr a rhoi hyder wrth berfformio. Mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd erbyn hyn.
Beth yw dy rôl yn Eisteddfod Sir y Fflint?
Wel, dwi'n Llywydd y Dydd ar y Dydd Llun sy'n fraint arbennig, dwi'n cymryd rhan yn y Cyngerdd agoriadol a dwi hefyd wedi cyfansoddi can i gloi sioe y plant cynradd, "Fflamau Fflint".
At beth wyt ti'n edrych ymlaen fwyaf yn yr Eisteddfod?
Eleni, dwi'n edrych ymlaen at weld Sir y Fflint yn cael ei haeddiant. Mae 'na dueddiad i anghofio am y gornel yma o Gymru ond mae'n bair o dalent ac mae pobl Sir y Fflint ymhlith y gorau ar y blaned. Halen y ddaear. Dw i hefyd yn edrych mlaen i chwilio am dalent newydd.
Beth yw dy hoff gystadleuaeth/seremoni yn yr Eisteddfod?
Fy hoff gystadlaethau ydi'r rhai offerynnol achos mae safon y rheiny bob amser yn anhygoel. 'Dan ni'n freintiedig iawn i allu gweld rhai o offerynwyr ifanc gorau Cymru yn defnyddio llwyfan yr Urdd i arddangos eu dawn. Mae llawer o'r cystadleuwyr yn gweithio'n ddiflino ac yn aml yn teithio'n bell i gael hyfforddiant gan gerddorion profiadol ac amlwg, ac mae hynny'n dangos yn y perfformiadau. Mae hefyd yn gyfle i'r di-Gymraeg gymryd rhan a bod yn ymwybodol o gyfraniad yr Urdd.
Pa gystadleuaeth newydd hoffet ti weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Fe hoffwn i weld y Band Taro yn dod yn ôl. Dw i ddim yn hoff o'r Grŵp Cerddoriaeth Greadigol a dw i'n meddwl y byddai dysgu rhythmau a cyd-chwarae yn llawer mwy buddiol ar gyfer chwarae mewn bandiau a cherddorfeydd yn y dyfodol.
Fe hoffwn i hefyd weld cystadleuaeth "dweud stori" - mae'n ddawn brin ac yn un rydan ni fel Cymry yn meddu arni ers blynyddoedd. Licien i ddim gweld y ddawn honno'n pylu.
Sut fyddet ti'n disgrifio ardal y Fflint i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen?
Mae hon yn sir sy'n cynnig rhywbeth i bawb - mae hi'n ddiwydiannol, yn wledig ac yn ymestyn am y glannau hefyd. Mae'r bobl yn tu hwnt o glên, mae ganddyn nhw hiwmor iach a'u traed yn solat ar y ddaear. Pobl ddirodres iawn ydi pobl Sir y Fflint. Ac er mor agos ydi'r Sir at y ffin, mae Cymreictod a diwylliant yn parhau i fod yn gryf yno ac mae cyfraniad addysg Gymraeg wedi bod yn amhrisiadwy. Gobeithio y bydd pobl yn cofio amdanon ni ar ol yr wythnos yma. Mi alla i sicrhau pawb y cewch chi groeso bythgofiadwy.