Llais y Llywydd: Nic Parry
- Cyhoeddwyd

Y barnwr a'r cyflwynydd, Nic Parry yw llywydd y dydd ar faes Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint ar ail ddiwrnod y cystadlu. Yn un o feibion Sir y Fflint, fe gafodd ei fagu ym mhentre Helygain o fewn taith feic fer i Faes yr Eisteddfod, a'i addysgu yn Ysgol Glanrafon a Ysgol Maes Garmon. Bu Cymru Fyw yn ei holi am ei atgofion am y mudiad a'r 'Steddfod.
Beth yw dy atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Actio Morgrugyn cloff mewn cystadleuaeth Cân Actol
Wnes di erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?
Do. Unawd Cerdd Dant, Cân Actol - Ysgol Glanrafon yn ennill sawl gwaith, partïon bechgyn a deulais ac yn fwyaf llwyddiannus mewn Siarad Cyhoeddus.
Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Mae'n rhoi cyfle i siarad Cymraeg. I ddyfynnu Myrddin ap Dafydd:
I hoelio'i hawl ar lawr gwlad,
Yn siŵr, rhaid inni'i siarad.
At beth wyt ti'n edrych ymlaen fwyaf yn yr Eisteddfod?
Y cyngerdd cloi efo'r Candelas a'r cyfle hanesyddol i ymweld â bar ar faes Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf erioed!
Pa gystadleuaeth newydd hoffet ti weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Yn sgil arolwg diweddar sy'n awgrymu fod carcharorion yn cael mwy o awyr iach mewn diwrnod na'r rhan fwyaf o blant ifanc - cystadleuaeth i'w hudo i'r mynyddoedd, y bryniau, y môr - yr awyr iach.
Sut fyddet ti'n disgrifio ardal y Fflint i bobl sydd erioed wedi bod yno o'r blaen?
Tre cwbl nodweddiadol o drefi y Sir; lle cyfleus - yn agos at gyffro dinasoedd ond ble mae'r bryniau a'r môr o fewn cyrraedd pawb a lle mae traddodiad ffordd o fyw miloedd o weithwyr diwydiannau mawr yn aros o hyd, er fod y gwaith wedi hen ddiflannu.