Y Gymraeg ar ochr arall y Clawdd
- Cyhoeddwyd

Mae hi yn gweithio yng Nghymru ond dydi hi erioed wedi byw yma. Mae Beth Ellis yn athrawes sy'n byw dros y ffin yn ardal Croesoswallt.
Sut brofiad felly yw byw ar y ffin? Dyna fydd Gareth Potter yn ceisio ei ddarganfod yn 'Straeon y Ffin', 20 Mai ar S4C. Bydd o'n holi Beth am ei magwraeth yn Lloegr a chymuned Gymraeg y gororau.
Buodd Beth, sy'n athrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yn dweud wrth Cymru Fyw am y profiad o fod yn Gymraes angerddol yr ochr arall i Glawdd Offa:
Mor agos ond o mor bell!
Yr anhawster mwyaf pan yn blentyn oedd cael fy anfon mor bell i'r ysgol ac felly yn byw yn bell o'm ffrindiau ac unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol e.e. 'dyn ni'n aelodau o Aelwyd Penllys ac mae ymarferion yn cael eu cynnal yn Llanfihangel yng Ngwynfa, sydd oeddeutu 25 milltir o adre.
Pan nad oedden ni'n gyrru, roedd rhaid i Dad fynd â ni yno a chysgu yn y car tra'n aros!
Mae mewnfudo wedi gwanhau Cymreictod mewn rhai pentrefi dros y ffin ond mae ethos Gymreig gref yn dal i fodoli ar y gororau, ymysg y Cymry a'r Saeson. Mae Clwb Cymraeg yn bodoli yng Nghroesoswallt ac mae Eisteddfod Powys yn cael ei chynnal yn y dref ym mis Gorffennaf 2016.
Weithiau mae ambell i Sais yn drysu - 'dyn nhw efallai ddim yn deall sut fedrwn ni fod yn Gymry a ninnau heb ein geni yno. Mae 'na lot o dynnu coes hefyd, ond dim ond cenfigennus ydyn nhw!
O fyw dros y ffin falle fy mod i'n fwy ymwybodol o'r gwahaniaethau a'r manteision o fod yn Gymraes!
Gorau dau fyd
Petaswn i'n blentyn heddiw dwi'n credu y byddai'n anoddach i mi o ran addysg. Cawson ni ein haddysg ym Mhowys ac mae'r Cyngor Sir yn gwneud toriadau ar hyn o bryd. Mae llai o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin; tra oeddwn i yno, roedd pob pwnc ar gael trwy'r Gymraeg a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny.
Mae'n hollbwysig cadw addysg cyfrwng Cymraeg yn y cymunedau gwledig yn hytrach na chanoli mewn Ysgol Gymraeg bell. Dydy ffyrdd canolbarth Cymru ddim yn dda a does fawr o drafnidiaeth gyhoeddus - mae'n rhaid i addysg cyfrwng Cymraeg fod yn lleol.
Dwi'n teimlo i raddau ein bod ni wedi cael y gorau o ddau fyd. Mae 'na ddiwylliant arbennig ar y gororau a braf yw cael bod yn rhan o ddau ddiwylliant hollol wahanol. Mae'n bwysig dyfalbarhau i gadw'r diwylliant hwnnw yn fyw.
Gallwn ddadlau bod Saeson y ffin yn eiddigeddus o Gymreictod, y diwylliant, y balchder ac ati. Dwi'n credu iddyn nhw ddod yn fwy ymwybodol o'r diwylliant yn y blynyddoedd diweddar ac maen nhw'n fwy tebygol o holi cwestiynau am y Steddfod ac yn y blaen erbyn hyn.
Synech chi faint o deuluoedd di-Gymraeg sy'n gwylio S4C yn yr ardal hon ac yn mwynhau rhaglenni o'r Steddfod, cyngherddau, 'Cefn Gwlad' ac ati.
Cefnogaeth frodorol
Efallai bod mewnfudwyr i rai ardaloedd yng Nghymru yn ymddangos yn wrth-Gymreig ond mae'r Saeson ar y ffin yn fy ardal i yn gwbl agored ac yn gefnogol. Mae nifer o'n ffrindiau yng Nghrosoeswallt wedi dechrau dysgu'r iaith ac mae diddordeb ganddyn nhw yn ein bywyd cymdeithasol gwahanol hefyd!
Dwi'n credu i raddau bod bobl y ffin yn gallu teimlo'n israddol i'r Cymry hynny mewn ardaloedd mwy cynhenid Gymraeg - diffyg hyder efallai - ac mae'n bwysig iawn iddyn nhw ddeall nad yw hynny yn wir. Mae ein hiaith ni o'r un safon â Chymraeg gweddill Cymru ac mae'r diwylliant yr un mor gryf fan hyn ag ydyw unrhyw le arall.
Yn fy marn i, mae pethau'n edrych yn dda. Mae mwy o alw am addysg Gymraeg ac mae safbwyntiau pobl yn fwy agored.
Efallai ei bod yn bryd i ni wthio i gael mwy o Gymraeg yn ysgolion y ffin, ac i ni ymgyrchu i orfodi pob ysgol yng Nghymru i gynnig pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Oni ddylai pob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol Gymraeg?!