Cyn-gomisiynydd heddlu Dyfed-Powys yn beirniadu cyngor
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-gomisiynydd heddlu a throsedd Dyfed-Powys wedi cymharu cyngor Sir Caerfyrddin gyda'r maffia.
Methiant oedd ymgais y Ceidwadwr Christopher Salmon i gael ei ailethol ar 5 Mai, wedi iddo gael ei drechu gan Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru.
Yn ei flog diweddaraf wrth edrych yn ôl ar yr ymgyrch mae'n hynod feirniadol o'r awdurdod lleol.
Dywedodd fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu cael ei gymharu gyda chartel y maffia o Ynys Sisili.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin na fyddant yn ymateb i'r sylwadau.
Beirniadaeth
Yn ei flog dywedodd Mr Salmon am y cyngor sir: "Mae'n derbyn llawer o arian o drigolion a'i rhoi i ffefrynnau, maen nhw'n casglu eiddo, yn bwlian gwrthwynebwyr ac yn ateb i neb, yn enwedig cynghorwyr lleol."
Ar yr ochr bositif dywedodd Mr Salmon ei fod wedi mwynhau'r swydd wrth weld yr heddlu yn gweithio, gweld troseddwyr yn cael eu herlyn, a chefnogaeth yn cael ei roi i ddioddefwyr.
Dywedodd mai'r siom fwyaf o golli oedd "sylwi na fyddai'r cynlluniau oeddwn wedi trafod ar sawl stepen drws yn gweld golau dydd."
"Roeddwn yn frwd dros fy nghynlluniau. Ond nid felly'r etholwyr - a dyna yw democratiaeth," meddai.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Dafydd Llywelyn, y comisiynydd heddlu a throsedd newydd, am ymateb.
Doedd Heddlu Dyfed Powys ddim am wneud unrhyw sylw ar y mater.