Amseroedd aros unedau brys 'yn gwella' wedi gaeaf prysur
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod amseroedd aros yn unedau brys ysbytai Cymru wedi gwella ar ôl un o'r gaeafau gwaethaf ar gyfer gofal brys ers i ffigyrau ddechrau.
Er hyn, mae perfformiad yn parhau'n llawer gwaeth na tharged Llywodraeth Cymru.
Mae'r ffigyrau ar gyfer mis Ebrill yn dangos bod 80.1% o gleifion wedi treulio llai na phedair awr cyn gorffen cael eu gweld mewn unedau brys - hynnyyn cymharu â 76.3% ym mis Mawrth.
Y targed yw y dylai 95% o gleifion dreulio llai na phedair awr.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 30% yn llai o gleifion wedi treulio dros 12 awr yn yr unedau ym mis Ebrill o'i gymharu â mis Mawrth.
Mae'n debyg bod y gwelliant yma'n rhannol oherwydd bod unedau brys wedi bod yn llai prysur, gyda 6,401 yn llai o gleifion ym mis Ebrill.
Er hyn, roedd y perfformiad ym mis Ebrill yn waeth o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.
Ymateb y Llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi honni fod y perfformiad gwael dros y gaeaf oherwydd bod adrannau brys wedi bod yn fwy prysur nag erioed.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd roi diwedd ar yr oedi hir ac y byddan nhw'n cadw golwg manwl ar y sefyllfa.
Dywedodd llefarydd: "Fe welodd unedau brys Cymru gyfartaledd o 2,685 o bobl pob dydd, neu 112 pob awr, yn ystod mis Ebrill 2016, ac mae hyn yn dilyn adegau prysur iawn dros gyfnod y gaeaf.
"Er y pwysau ar staff a gwasanaethau, fe wnaeth wyth o bob 10 claf orffen cael eu gweld o fewn pedair awr.
"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai'r amser y gwnaeth claf dreulio mewn uned frys ar gyfartaledd oedd dwy awr a 26 munud."