BBC Cymru Fyw

Teyrnged wedi marwolaeth bachgen ysgol 15 oed

Published
image copyrightGoogle
image captionRoedd Luke Barzewicz-Dower yn ddisgybl yn Ysgol Penfro
Mae teulu bachgen ysgol 15 oed fu farw'n sydyn yn Sir Benfro wedi ei ddisgrifio fel "mab, ŵyr a brawd annwyl".
Bu farw Luke Barzewicz-Dower yn dilyn digwyddiad ger Ysgol Penfro yn Noc Penfro ddydd Llun, ac mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Hoffai teulu Luke roi teyrnged i'w mab, ŵyr a brawd annwyl.
"Roedd gan Luke galon o aur a bydd pawb oedd yn ei garu yn ei golli yn fawr.
"Dymunwn fel teulu gael preifatrwydd yn ystod y cyfnod trist hwn."
Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth.