Dwy ddrama newydd yn trafod dementia
- Cyhoeddwyd
Llion Williams yn trafod dementia
Mae dramâu newydd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am effaith dementia ar gymunedau Cymreig.
Mae drama 'Perthyn/Belonging' ar daith ar hyn o bryd, ac mae cynhyrchiad newydd National Theatre Wales, 'Before I Leave', hefyd yn trafod y cyflwr sy'n effeithio ar 45,000 o bobl yng Nghymru.
Trafferthion cyfathrebu i gleifion sy'n siarad Cymraeg ydy un o themâu 'Perthyn', tra bod 'Before I Leave' yn canolbwyntio ar aelodau côr ar gyfer pobl â dementia.
Yr actor Llion Williams sy'n chwarae rhan Morris yn 'Perthyn', pan fo'r cyflwr yn achosi trafferthion iddo wrth drio cyfathrebu.
Dwedodd fod hyn yn gallu bod yn broblem gyffredin i rai sy'n trio derbyn triniaeth.
"Yn anffodus mae 'na rai pobl o fewn y proffesiwn iechyd a gofal sydd ddim yn ymwybodol mai rhan o gyflwr dementia ydy bod rhywun yn mynd yn ôl i'w blentyndod, ac wrth gwrs yn ôl at yr iaith mae'n siarad yn ei blentyndod.
"Wedyn, mewn ffordd, 'mond gobeithio bod drama fel hon yn tynnu sylw at hynny. Wrth gwrs mae 'na nifer o bobl o fewn y proffesiwn yn gwybod hynny eisoes, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n pwysleisio'r pwynt yna."
Cynulleidfa
Yn ogystal â pherfformiadau gyda'r nos, mae perfformiadau o 'Perthyn' yn ystod y dydd wedi denu cynulleidfa o aelodau'r maes meddygol, pobl gyda dementia, a'u teuluoedd.
Dywedodd Llion Williams: "Beth sy'n braf efo'r sioe yma ydy bod yn ystod y dydd rydyn ni'n perfformio mwy neu lai yn egscliwsif i bobl o fewn y maes gofal, y maes iechyd ag ati.
"Mae 'di bod yn bleser i fi gael gweithio fel actor o flaen pobl yn y proffesiwn."
Tra bod 'Perthyn' ar daith ledled Cymru, mae cynhyrchiad newydd gan y theatr genedlaethol Saesneg ar fin agor yng Nghaerdydd.
Effaith dementia
Patrick Jones ydy awdur 'Before I Leave'. Mae'r ddrama yn cynnwys cân newydd gan ei frawd Nicky Wire o'r Manic Street Preachers, tra bo'r cymeriadau yn dod i afael a'r effaith mae dementia yn ei gael ar eu bywydau.
Er i'r ddrama gyffwrdd ar agweddau negyddol yn hanes y cymoedd, dydy hi ddim yn ddrama llawn "dicter", yn ôl Patrick Jones:
"Thema'r ddrama ydy pŵer iachaol cerddoriaeth, ac o bobl yn dod at ei gilydd. Mae'n cyffwrdd ar ein hetifeddiaeth hefyd, ond yn y pen draw mae'r ddrama yn edrych at y dyfodol ac yn dweud 'dyma sut all ein cymdeithas ni weithio,' gyda phobl yn dod at ei gilydd, yn canu ac yn rhannu straeon."
Mae corau dementia wedi profi'n boblogaidd, a dwedodd Patrick Jones i lwyddiant côr ym Merthyr Tudful ei ysgogi i ysgrifennu'r ddrama.
"Rwy'n trio gwneud sylw yn y ddrama am ein cymdeithas ni, a sut mae pobl yn oes y Gymdeithas Fawr wedi dechrau cwrdd er mwyn helpu ei gilydd."
Her
Mae'n her i'r rhai sy'n trio cyfleu bywyd gyda dementia ar y llwyfan. Clêr Stephens sy'n chwarae Mags, gwraig Morris, yn y ddrama 'Perthyn'.
"Yn bersonol i fi, mae'n sialens eitha mawr. Rwy'n credu bod e'n bwysig i neud yn siŵr ein bod ni ddim yn hedfan dros y peth gydag un emosiwn.
"Mae'n rhaid i ni neud yn siŵr ein bod ni'n gallu trosglwyddo i bawb faint mor anodd mae'n gallu bod i rywun sy'n gofalu am rywun arall gyda'r broblem yma.
Dywedodd fod y cast wedi derbyn adborth "anhygoel" gan gynulleidfaoedd hyd hyn, ac roedd anawsterau cleifion Cymraeg eu hiaith yn bwnc llosg.
Mae pobl gyda dementia yn "ffili deall, maen nhw ffili cyfathrebu oherwydd yr iaith achos mae'r person sydd â dementia yn mynd nôl i'w famiaith. Ac wedyn, os ydyn nhw efo pobl o amgylch nhw sydd ddim yn deall, mae'n anodd iawn iddyn nhw ac i'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw."
Mae 'Perthyn/Belonging' yn Aberdaugleddau ar hyn o bryd fel rhan o daith o amgylch Cymru. Fe fydd 'Before I Leave' yn agor ar 27 Mai yn theatr Sherman Cymru.