Ysgol Gymraeg Casnewydd: Cyngor y ddinas i drafod
- Published
Bydd Cyngor Casnewydd yn cyfarfod ddydd Iau i drafod cais cynllunio ar gyfer ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y ddinas
Fe bleidleisiodd pwyllgor cynllunio'r awdurdod yn erbyn rhoi caniatâd i'r cynllun fis Chwefror.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhybuddio bod risg sylweddol o lifogydd ar y safle.
Yn ôl y cynllun, byddai safle presennol Ysgol Uwchradd Duffryn yn cael ei rannu, gydag ysgol newydd cyfrwng Cymraeg yn cael ei datblygu ar ran o'r safle.
Mae'r safle gwerth £17m yn cynnwys dau adeilad dysgu tri llawr - un i'r ysgol bresennol ac un i'r un newydd.