Camweinyddu bwriadol: Plismyn Dyfed-Powys yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae Stephen Greensmyth, ar y chwith, a Rhys Thomas James, ar y dde, yn wynebu cyhuddiad o gamweinyddu bwriadol mewn swydd gyhoeddus
Mae dau heddwas gyda Heddlu Dyfed-Powys wedi bod o flaen Llys Ynadon Llanelli ar gyhuddiad o gamweinyddu bwriadol mewn swydd gyhoeddus.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud a chyflenwi cyffur dosbarth B i berson i'w hannog i roi gwybodaeth, a methu a dilyn prosesau'r heddlu.
Mae Stephen Greensmyth, 54 oed o Bronwydd, a Rhys Thomas James, 37 oed o Abergwili, wedi eu hatal o'u gwaith gan Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn ymchwiliad gan yr Uned Gwrthlygredd.
Ni wnaeth y ddau gyflwyno ple, ac fe gawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe a byddan nhw'n mynd o flaen y llys ar 20 Mehefin.