Ffrae fferm deuluol: Rhieni yn ennill achos apêl

  • Cyhoeddwyd
Tegwyn a Mary DaviesFfynhonnell y llun, NEVILE AYLING
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Tegwyn a Mary Davies wedi apelio yn erbyn y dyfarniad o £1.3 milwin

Mae Llys Apêl wedi penderfynu lleihau'r taliad y bydd merch o Sir Gâr yn ei dderbyn ar ôl brwydr gyfreithiol ynghylch etifeddiaeth fferm y teulu.

Y llynedd, fe ddyfarnodd llys y dylai Eirian Davies, 47 oed, dderbyn £1.3 miliwn ar ôl iddi ddwyn achos yn erbyn ei rhieni.

Nawr mae Tegwyn a Mary Davies, sydd yn eu 70au ac o fferm Caeremlyn yn ardal Hendy-gwyn ar Daf, wedi ennill hapel ac mae'r ffigwr wedi ei leihau i £500,000.

Clywodd y Llys Apêl fod y rhieni wedi addo y byddai Eirian Davies yn etifeddu y rhan helaeth o gyfoeth y fferm laeth llewyrchus a hynny ar ôl gweithio am flynyddoedd am fawr ddim o gyflog.

Ond yn dilyn anghydfod teuluol, roedd y rheini wedi addasu eu hewyllys i rannu'r fferm 182 erw yn gyfartal rhwng Eirian Davies a'i dwy chwaer.

Ddydd Iau yn y Llys Apêl, dywedodd y barnwyr Mr Ustus Lewision, Mr Ustus Patten ac Mr Ustus Underhill fod y taliad o £1.3 miliwn "yn llawer rhy hael" .

Etifeddu cyfoeth

Dywedodd y barnwyr hefyd y dylai Miss Davies adael y fferm, lle cafodd ei magu, o fewn cyfnod o 12 mis.

Clywodd y llys fod Miss Davies wedi gweld yr ewyllys gwreiddiol yn 2009, dogfen yn dangos mai hi fyddai'n etifeddu y rhan fwyaf o gyfoeth y fferm.

Ond yn ddiweddarach, fe gafodd yr ewyllys ei newid ac yn dilyn ffrae deuluol fe geisiodd Mr a Mrs Davies yn aflwyddiannus i orfodi Eirian Davies i adael y fferm.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Lewison fod y ffrae yn un chwerw iawn, ond ychwanegodd fod y taliad a ddyfarnwyd yn yr achos gwreiddiol yn rhy hael, gan ei leihau i £500,000.

Mae'n debyg y bydd costau'r holl achosion llys yn swm chwe ffigwr.

Mr a Mrs Davies fydd yn gorfod talu costau'r achosion blaenorol, ond bydd yn rhaid i'w merch, Eirian Davies, dalu costau apêl lwyddiannus ei rhieni.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yn rhaid i Eirian Davies adael y fferm deuluol o fewn 12 mis
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Y fferm yn Henllan Amgoed