Cyhuddo dyn o lofruddio Gwilym Jones yng Nghwm Ogwr
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn yng Nghwm Ogwr wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth.
Mae Andrew Seal, 49 o Gwm Ogwr, wedi ei gyhuddo o lofruddio Gwilym Jones, 73, a cheisio llofruddio dynes 21 oed.
Bu farw Mr Jones, oedd o Oxford Court yng Nghwm Ogwr, rhyw bryd rhwng dydd Sul a dydd Llun.
Bydd Mr Seal yn ymddangos yn Llys Ynadon Pen-y-bont ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2016