Cyhoeddi rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016
- Cyhoeddwyd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.
Cyflwynir gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i'r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau ym myd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw'r awdur Lleucu Roberts, y bardd a darlithydd Llion Pryderi Roberts, a chyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens.
Beirniaid y llyfrau Saesneg eleni yw'r darlithydd Tony Brown, golygydd gyda The Bookseller, Caroline Sanderson, a Chyfarwyddwr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Justin Albert.
Cyflwynwyd tua hanner cant o lyfrau Cymraeg cymwys i'r beirniaid, ac mae'r naw teitl canlynol wedi ennill eu lle ar y Rhestr Fer:
Gwobr Farddoniaeth Prifysgol Aberystwyth
- Nes Draw, Mererid Hopwood (Gomer)
- Hel llus yn y glaw, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
- Eiliadau Tragwyddol, Cen Williams (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffuglen
- Norte, Jon Gower (Gomer)
- Y Bwthyn, Caryl Lewis (Y Lolfa)
- Rifiera Reu, Dewi Prysor (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Pam Na Fu Cymru, Simon Brooks (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr, Gruffydd Aled Williams (Y Lolfa)
- Is-deitla'n Unig, Emyr Glyn Williams (Gomer)
Fe noddir categorïau unigol eleni gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Brycheiniog.
Y llyfrau Saesneg sydd wedi'u henwebu:
Gwobr Farddoniaeth Saesneg Roland Mathias
- Love Songs of Carbon, Philip Gross (Bloodaxe Books)
- Boy Running, Paul Henry (Seren)
- Pattern beyond Chance, Stephen Payne (HappenStance Press)
Gwobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies
- The Girl in the Red Coat, Kate Hamer (Faber & Faber)
- We Don't Know What We're Doing, Thomas Morris (Faber & Faber)
- I Saw a Man, Owen Sheers (Faber & Faber)
Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg Y Brifysgol Agored Yng Nghymru
- Losing Israel, Jasmine Donahaye (Seren)
- Woman Who Brings the Rain, Eluned Gramich (New Welsh Rarebyte)
- Wales Unchained, Daniel G. Williams (University of Wales Press)
Caiff enillwyr y Wobr eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn The Redhouse, Merthyr Tudful, nos Iau 21 Gorffennaf.