Siop yn hysbysebu crysau Lloegr ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni dillad chwaraeon JD Sport wedi codi nyth cacwn wrth osod posteri tu allan i'w siop ym Mae Caerdydd yn hysbysebu crysau pêl-droed Lloegr.
Gyda llai na mis i fynd cyn i garfan Cymru ymddangos ym mhencampwriaeth Euro 2016, mae'r penderfyniad gan y cwmni i hysbysebu crysau carfan Lloegr wedi ennyn beirniadaeth gan rai o gefnogwyr Cymru.
Y cyflwynydd, actor a chefnogwr pêl-droed brwd Rhydian Bowen Phillips sylwodd ar y posteri, a thynnu sylw cefnogwyr eraill at yr hyn oedd yn ffenest siop y cwmni drwy dynnu llun o'r posteri a'i roi ar wefan gymdeithasol Twitter.
Wrth siarad ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, dywedodd: "Nes i edrych ar wal y siop a doeddwn i ddim yn gallu credu beth oeddwn i'n ei weld. Ym mhrif ddinas Cymru, Bae Caerdydd, na lle ro nhw yn hysbysebu crysau Lloegr a'r joc yw JD Sport yw'r unig le alle ti brynnu crysau Cymru yng Nghymru a nhw sydd gyda'r deal exclusive. Roedd y peth yn warthus ac yn sarhad cyfan."
'Gwarthus'
Ychwanegodd: "O fewn yr awr roedden nhw wedi cymryd y posteri i lawr ond y peth yw ddylie nhw ddim wedi bod lan yn y lle cyntaf a mae'r peth jyst yn warthus. Os ydyn nhw'n ddigon parod i hysbysebu crys Lloegr ar draul cryse Cymru - yn enwedig blwyddyn yma - mae'r peth yn warthus. Ddyle fe ddim wedi digwydd o gwbl."
Cefnogwr arall a leisiodd ei anfodlonrwydd ar Taro'r Post oedd Jack Thomas, sy'n fyfyriwr yn Aberystwyth. Dywedodd: "Pan nes i ei weld e roeddwn i wedi fy siomi achos fod o'n dangos bod JD Sport wedi bod yn ddiog ac mae'n edrych fel nad oes ganddyn nhw unrhyw synnwyr o beth mae cwsmeriaid nhw moyn.
"Y ffaith bod JD Sport yn cael partneriaeth hefyd hefo Cymdeithas Bêl-droed Cymru, siwr o fod fydde nhw ddim yn hapus hefo hyn, hefo'r Euros yn dod lan mewn llai na mis, bydde ti'n meddwl bydde na marketing campaign enfawr i werthu crysau Cymru a popeth i wneud hefo Cymru. Mae hwn yn amser nawr i ddathlu popeth sy'n ymwneud a thîm Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth raglen Taro'r Post fod y gymdeithas wedi cysylltu gyda'r cwmni ar ôl clywed am y gŵyn, gan ddweud bod y cwmni wedi cyfaddef iddyn nhw wneud camgymeriad ac fe gafodd y posteri eu tynnu i lawr.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda JD Sport am sylw ond does dim ymateb wedi dod eto.