Datrys problem dechnegol: Cymru ar ap Euro 2016

  • Cyhoeddwyd
euro 16Ffynhonnell y llun, Euro2016

Mae UEFA wedi datrys problem dechnegol oedd yn rhwystro Cymru rhag ymddangos ar ap swyddogol Euro 2016, wedi i Cymru Fyw dynnu sylw'r corff at "siomedigaeth" cefnogwyr.

Mae'r ap bellach yn cynnwys Cymru, ac mae ar gael i ddilynwyr pêl-droed sy'n dymuno dilyn a derbyn gwybodaeth am y timau fydd yn cystadlu yn y bencampwriaeth yn Ffrainc ym mis Mehefin.

Yn ôl UEFA, problem dechnegol oedd yn golygu nad oedd Cymru yn ymddangos.

Dywedodd un cefnogwr wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn "siomedig iawn" gydag UEFA, am fethu a chynnwys Cymru yn yr ap.

Meddai Tim Hartley o Gaerdydd, sydd wedi bod yn dilyn Cymru i bedwar ban byd: "Mae'n syndod fy mod wedi derbyn tocynnau i ddilyn fy nhîm reit i'r ffeinal, ac eto, mae UEFA wedi hepgor Cymru o'r ap.

"Mae hyn yn siomedig iawn, pam blaenoriaethu rhai timau dros rai eraill?

"Ond wedi dweud hynny, fe fydd cefnogwyr Cymru yn sefyll gyda'i gilydd yn Ffrainc mis nesa' doed a ddel, ap neu beidio."

'Nam technegol'

Yn ogystal â Chymru, nid oedd y Swistir, Twrci a'r Wcrain yn ymddangos ar yr ap.

Roedd Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi eu cynnwys.

Dywedodd llefarydd ar ran UEFA wrth Cymru Fyw "nad oedd y timau wedi eu hepgor yn fwriadol".

"Oherwydd nam technegol, nid oedd modd gweld y rhes olaf o dimau ar rai dyfeisiau. Rydym wedi bod yn gweithio i geisio adfer hyn.

"Mae'r broblem bellach wedi ei datrys." ychwanegodd y llefarydd.

Bydd pencampwriaeth Euro 2016 yn dechrau ar 10 Mehefin.