Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio ar benodiad addysg
- Cyhoeddwyd

Mae unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad yw hi'n cymryd yn ganiataol y bydd hi'n cael cefnogaeth ei phlaid fel yr Ysgrifennydd Addysg.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi gofyn i Kirsty Williams i fod yn rhan o gabinet Llywodraeth Cymru. Aelodau Llafur yw gweddill yr ysgrifennyddion.
Ond mae'n rhaid i'r penodiad gael ei gymeradwyo gan aelodau'r blaid yng Nghymru mewn cynhadledd arbennig ddydd Sadwrn.
Mae'n gwadu y bydd y swydd yn golygu na fydd ei phlaid yn bodoli bellach yn y Cynulliad.
Dywedodd yr AC ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed: "Dwi ddim yn cymryd dim yn ganiataol o fewn gwleidyddiaeth.
"Yr hyn sydd yn grêt am fod yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ydy mai nid penderfyniad i unigolyn yw hyn. Bydd bob aelod o'r blaid yn cael cyfle i ddweud eu dweud ac i bleidleisio ar y penderfyniad."
Wrth ateb y cwestiwn ynglŷn ag os yw'r blaid yn bodoli nawr o fewn y Cynulliad o achos y penodiad dywedodd: "Mae'n bodoli o fewn rôl y gweinidog yn y cabinet, gobeithio os bydd y blaid yn cymeradwyo'r apwyntiad, trwy weithredu polisïau'r Democratiaid Rhyddfrydol a dylanwadu ar yr agenda. Mae hynny yn llawer cryfach na bod yn aelod cynulliad unigol ar y meinciau cefn."
Mae dau gynghorydd o fewn y blaid wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi'r penodiad.
Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd Aled Morris Jones, cynghorydd ar Gyngor Môn: "Mae'n debyg bod Kirsty wedi llwyddo i gael cefnogaeth i bolisïau'r blaid ar leihau nifer y plant mewn dosbarthiadau babanod; ysgolion cefn gwlad; amaeth ac arian at adeiladu tai fforddiadwy.
"Mae'n wych bo ni di cael hyn drwy ddylanwad Kirsty Williams. Dyma rai o'r blaenoriaethau sy'n cael sylw gan lywodraeth Cymru dros y cyfnod nesa a da o beth y bydd Kirsty Williams yna.
"Fe fydd 'na nifer o aelodau yn gefnogol i Kirsty fory (yn y cyfarfod arbennig) ac mae'n bwysig ein bod yn cael gweithredu rhai o'n polisïau ni."
Dywedodd Ceredig Davies, arweinydd y blaid ar Gyngor Ceredigion: "Mae'n amlwg ein bod wedi dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd pan fu Nick Clegg mewn clymblaid.
"Ond fe fydd y cytundeb yma o fudd i'n haelodau ni ac yn dangos y byddwn ni'n gallu cael ein gwerthoedd.
"Mae gan Kirsty brofiad ac mae hyn yn dangos hynny ac mae ein llwyddiant yn y Cynulliad eisoes yn dangos hynny."