Tra Bo Dau

Cytundeb digon rhyfedd yw hwnnw rhwng Kirsty Williams a Carwyn Jones i alluogi i Kirsty Williams ymuno a'r llywodraeth. Pwysleisir gan Lafur nad cytundeb clymblaid yw hwn. Does dim modd clymbleidio ac unigolyn, meddir, ac o'r herwydd does dim angen i Carwyn sicrhau sêl bendith ei blaid.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall yn ceisio portreadu'r cytundeb fel un tebyg ei anian i'r rheiny a gafwyd rhwng y ddwy blaid a rhwng Llafur a Phlaid Cymru mewn cynulliadau blaenorol.

Diwinyddol yw'r gwahaniaethau yn y bôn ond sut bynnag y mae'r diffinio'r cytundeb fedr neb wadu ei bod yn un hael iawn o safbwynt yr hyn y mae Kirsty Williams yn ei gael o ystyried gwendid ei sefyllfa.

Pam felly yr oedd Carwyn mor awyddus i gael Kirsty Williams yn ei gabinet? Mae 'n ddwy elfen i'r ateb, dybiwn i. Mae'r elfen gyntaf yn bersonol. Mae'r ddau arweinydd ar y cyfan yn dod ymlaen ac yn parchu ei gilydd - sylfaen da i unrhyw berthynas.

Pwynt mathemategol a chyfansoddiadol yw'r ail elfen. Er nad yw'r cytundeb yn sicrhau mwyafrif i Carwyn yn y Cynulliad mae'n ddigon i sicrhau nad oes mwyafrif gan y gwrthbleidiau chwaith.

Fe fydd angen i Carwyn fargeinio ynghylch cyllidebau a deddfwriaeth a phethau felly ond gall wneud hynny heb fwyell yn hofran uwch ei ben. Hynny yw, mae'r peryg o bleidlais diffyg hyder gan y gwrthbleidiau wedi diflannu i bob pwrpas.

Mae'r manteision i Lafur yn eglur - ond mae'r cytundeb yn gambl enfawr i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Y peryg yw bod y blaid yn troi i fod yn ddim byd mwy na chasgliad o gynghorwyr gydag un Aelod Seneddol nad yw'n adnabyddus y tu hwn i'w etholaeth ei hun ac un Aelod Cynulliad sydd, i bob pwrpas, yn aelod Llafur.

Efallai nad oes gan y blaid ddewis ond twlu'r deis ond rwy'n amau y bydd rhai o fewn y blaid yn bryderus iawn ynghylch y penderfyniad. Gallai cynhadledd arbennig y blaid fod yn un ddiddorol - er go brin y bydd yr aelodau yn beiddio herio eu prif ased gwleidyddol.