Cynnydd o filiwn yn nifer y cyffuriau ar bresgripsiwn
- Cyhoeddwyd

Mae cynnydd o filiwn wedi bod yn nifer y cyffuriau gafodd eu rhoi ar bresgripsiwn i gleifion yng Nghymru y llynedd.
Yn ôl adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, cafodd 79.5 miliwn o bresgripsiynau eu rhoi yn 2015, o'i gymharu â 78.5 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.
Roedd cost y polisi o roi presgripsiwn am ddim yng Nghymru yn £593.7m, cynnydd o 3.5% ers 2014.
Daeth y polisi i rym yn 2007.
Dros y degawd ddiwethaf mae nifer y presgripsiynau sydd wedi'u rhoi i gleifion wedi cynyddu 40%.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad i roi presgripsiwn yn "fater i feddygon teulu ac eraill, ac yn seiliedig ar farn broffesiynol ac anghenion clinigol y claf".
"Dyw hynny ddim wedi newid ers dyfodiad rhoi presgripsiwn am ddim," meddai.
Mwy yng Nghymru
Mae'r adroddiad yn dangos bod mwy o bresgripsiynau y pen yn cael eu rhoi i gleifion yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU - 25.7% o'i gymharu â 21.6% yng Ngogledd Iwerddon, 20% yn Lloegr a 19% yn Yr Alban.
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae nifer yr eitemau ar bresgripsiwn yn Lloegr wedi cynyddu 36% rhwng 2007 a 2015.
"Dros yr un cyfnod, roedd y nifer o eitemau ar bresgripsiwn yng Nghymru wedi cynyddu 28%."
Yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas y Fferyllwyr yng Nghymru, Mair Davies, mae sawl rheswm pam bod Cymru yn dosbarthu mwy o bresgripsiynau y pen.
"Mae newidiadau demograffeg a'r salwch cronig sy'n gysylltiedig â hynny yn yr henoed, ac etifeddiaeth y diwydiannau trwm i gyd yn cyfrannu tuag at y nifer fwyaf o bresgripsiynau sy'n cael eu rhoi yn ein gwlad.
"Mae'r ystadegau'n dangos bod fferyllwyr yng Nghymru yn parhau i weithio'n galed iawn i roi gwasanaeth i gleifion sydd ei angen."