Biswail yn lladd cannoedd o bysgod mewn afon yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod mwy na 230 o bysgod wedi marw oherwydd y digwyddiad
Mae cannoedd o bysgod wedi cael eu lladd mewn afon yn Sir Gaerfyrddin wedi i fiswail gael ei golli i'r afon.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio wedi i fwy na 230 o bysgod farw yn yr ardal o Afon Taf.
Dywedodd CNC bod achos y digwyddiad wedi cael ei ddarganfod, a bod y llygredd wedi'i rwystro.
Mae swyddogion nawr yn cynnal profion o effaith y digwyddiad ar hyd ardal 1.3 milltir o'r afon.
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Gorllewin Cymru CNC, Andrea Winterton: "Daethom o hyd i ffynhonnell y llygredd gan sicrhau ei fod wedi dod i ben.
"Byddwn yn parhau i fonitro'r afon yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw broblemau amgylcheddol parhaus i'w cael."