Jade Jones yn ennill ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae'r pencampwr Olympaidd o ogledd Cymru, Jade Jones wedi ennill ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop am y tro cyntaf.
Fe wnaeth Jones, 23 oed, guro Nikita Glasnovic o Sweden yn ffeinal pwysau -57 cilogram i ennill y fedal aur yn y Swistir ddydd Gwener.
"Rydw i wrth fy modd, mae'r ffordd i Rio wedi bod yn un anodd felly mae gallu ticio hynny oddi ar fy rhestr a bod yn bencampwr Ewrop yn anhygoel," meddai wrth BBC Cymru.
"Mae [Rio] am fod yn anodd iawn, ond rwy'n credu 'mod i'n gallu ennill os ydw i'n perfformio fel rwy'n gwybod y gallaf."
Fe wnaeth Jones ennill 11-5 mewn ffeinal unochrog i ennill tlws Ewropeaidd am y tro cyntaf.