Ffrwydro 'bom' ar draeth ym Mharc Gwledig Pen-bre
- Cyhoeddwyd
Mae'r fyddin wedi ffrwydro dyfais roedd yr awdurdodau yn ei gredu oedd yn fom ar draeth yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd Parc Gwledig Pen-bre ar gau am gyfnod wedi'r darganfyddiad ar draeth Cefn Sidan.
Fe wnaeth yr heddlu agor y parc eto ddydd Sadwrn.
Roedd y traeth ar gau am gyfnod tan i'r awdurdodau ddiogelu'r ardal.