Disgwyl i Coleman ymestyn ei gytundeb fel rheolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Coleman

Mae disgwyl i reolwr Cymru, Chris Coleman ymestyn ei gytundeb hyd at ar 么l pencampwriaeth Euro 2016.

Mae cytundeb presennol Coleman, 45, yn dod i ben ar 么l Euro 2016 ond mae disgwyl iddo gael cynnig estyniad ar 么l arwain Cymru i un o brif gystadlaethau p锚l-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958.

Y gred yw y bydd Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn cyhoeddi manylion y cytundeb ddydd Llun.

Cafodd Coleman, sydd wedi rheoli Fulham a Coventry City yn y gorffennol, ei benodi'n rheolwr y t卯m rhyngwladol ym mis Ionawr 2012, wedi marwolaeth Gary Speed.

Disgrifiad,
Ymateb cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones

Mae'r Gymdeithas B锚l-droed wedi trefnu cynhadledd i'r wasg gyda Coleman a phrif weithredwr y gymdeithas, Jonathan Ford ddydd Llun.

Mae Ford eisoes wedi dweud: "Rydyn ni'n gobeithio'n fawr y bydd Chris yn arwain ein t卯m ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd."

Bydd gem gyntaf Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Slofacia yn Bordeaux ar 11 Mehefin cyn wynebu Lloegr yn Lens a Rwsia yn Toulouse.

Bydd yr ymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2018 yn dechrau ym mis Medi yn erbyn Moldova.