Kirsty Williams wedi 'gwneud llawer gwell' na rhagflaenwyr

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams

Mae Kirsty Williams wedi "gwneud yn llawer gwell" na'i rhagflaenwyr drwy sicrhau swydd Ysgrifennydd Addysg, yn ôl cyn ymgynghorydd arbennig.

Ddydd Iau, cadarnhaodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod wedi cynnig swydd i unig AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gabinet.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau gan aelodau'r blaid mewn cynhadledd arbennig ddydd Sadwrn.

Yn y glymblaid yn y flwyddyn 2000, fe wnaeth aelodau Democratiaid Rhyddfrydol gymryd swyddi datblygiad economaidd a'r celfyddydau.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, wnaeth weithio i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan rhwng 2000 a 2007, bod Mr Morgan wedi rhoi swyddi i gyn-bartneriaid oedd yn "swnio'n grand ond nad oedd o ddylanwad mawr".

Mewn clymblaid debyg yn 2007, cafodd aelodau Plaid Cymru swyddi'r economi a thrafnidiaeth, treftadaeth a materion gwledig.

'Angen sicrwydd'

Yn siarad gyda rhaglen Sunday Politics y BBC, dywedodd Mr Griffiths: "Mae'r hyn mae Kirsty Williams wedi ei gael, yn ail i iechyd, o bosib yn un o'r portffolios gyda'r gwariant mwyaf gyda'r heriau mwyaf o fewn Llywodraeth Cymru."

Y gred yw bod Ms Williams wedi cael cynnig swydd materion gwledig cyn derbyn y swydd addysg.

Ychwanegodd Mr Griffiths: "Os wnaeth hi aros i gael hynny yna mae hi wedi gwneud yn llawer gwell na rhai o'i rhagflaenwyr."

Wrth drafod penderfyniad Carwyn Jones i wahodd Ms Williams i fod yn rhan o'i lywodraeth, dywedodd Mr Griffiths: "Mae angen sicrwydd o'ch cwmpas y gallwch chi symud y llywodraeth yn ei flaen, nad ydych chi'n gwyro i'r digwyddiadau dyddiol, ac mae'n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo.

"Dwi'n credu nad oedd unrhyw ddewis arall i Kirsty o ran os nad oedd hi'n cymryd y cyfle yma, sut oedd hi'n mynd i gael platfform i ail-adeiladu ei phlaid yng Nghymru neu unman arall."