Dyn yn yr ysbyty wedi tân mewn tŷ yn Abercwmboi
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn ne Cymru nos Sadwrn.
Cafodd pedwar o griwiau eu galw i'r digwyddiad ar Park View Terrace yn Abercwmboi ger Aberdâr.
Roedd un dyn wedi dianc o'r tŷ ond cafodd ei gludo i'r ysbyty. Nid oes mwy o fanylion am ei gyflwr.
Nid yw'n glir beth oedd achos y tan hyd yma.