Prif Weinidog yn camu'n ôl o gynlluniau e-sigaréts a chynghorau
- Cyhoeddwyd

Bydd cynlluniau dadleuol i wahardd defnydd e-sigaréts mewn rhai mannau cyhoeddus yn cael eu tynnu o'r mesur iechyd cyhoeddus, yn ôl y Prif Weinidog.
Dywedodd hefyd na fyddai'r cynllun gafodd ei gynnig i ad-drefnu cynghorau "yn mynd yn ei flaen" ond bod ganddo "feddwl agored" ar gyfer llunio cynllun newydd.
Roedd y cynllun e-sigaréts yn rhan o'r mesur wnaeth fethu yn y Cynulliad yn dilyn gwrthwynebiad gan Blaid Cymru.
Ond dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales ei fod yn bwriadu parhau gyda chynllun y llwybr du ar gyfer ffordd osgoi yr M4 yng Nghasnewydd.
Dywedodd Mr Jones: "Does dim pwynt taro ein pennau'n erbyn y wal pan ddaw at e-sigaréts.
"Bydd y mesur iechyd cyhoeddus yn dod yn ôl i'r cynulliad, ond yn amlwg, does dim pwynt cynnwys y darpariaethau ar gyfer e-sigaréts pan rydyn ni'n gwybod na fyddan nhw'n cael eu pasio."
Ychwanegodd y byddai'r mesur yn cael ei gyflwyno eto heb y gwaharddiad.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod "wrth fy modd bod Llafur wedi gorfod derbyn na fyddan nhw'n parhau gyda'r polisi annoeth yma".
'Meddwl agored'
Hefyd ar y rhaglen, dywedodd Mr Jones ei fod yn cadw "meddwl agored" ynglyn a chynlluniau i ad-drefnu cynghorau.
Roedd y cyn weinidog gwasanaethau cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi bwriadu gorfodi rhai cynghorau i uno i greu llai o awdurdodau yng Nghymru.
Ond fe wnaeth y Prif Weinidog dderbyn na fyddai'r cynllun yna yn parhau.
"Yn amlwg nid yw'r map yn mynd i barhau, gafodd ei gyhoeddi cyn yr etholiad, ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny," meddai.
"Ond mae dealltwriaeth gan y pleidiau bod angen i ni ad-drefnu llywodraeth leol, i wneud llywodraeth leol yn gryfach a chynghorau tref a chymuned yn gryfach."
Ychwanegodd ei fod yn barod i ddechrau trafodaethau gyda'r pleidiau eraill ynglyn a'r map newydd, a bod ganddo "feddwl agored".
Cefnogi'r llwybr du
Er iddo dderbyn y byddai'n rhaid camu'n ôl o rai cynlluniau, dywedodd y byddai'n bwrw 'mlaen gyda chynllun y llwybr du ar gyfer ffordd osgoi yr M4 yng Nghasnewydd.
"Un peth wnai ddweud yw na allwn ni gefnogi'r llwybr glas, ac mae sawl rheswm dros hynny," meddai.
"Yn gyntaf mae'r llwybr glas yn ffordd ddeuol nid traffordd chwe lon ac i mi mae hynny'n mynd yn ebryn pwynt cael ffordd newydd.
"Yn ail mae'n mynd heibio tai lle mae miloedd o bobl yn byw, yn llythrennol heibio eu gerddi a'u drysau ffrynt, a gall unrhyw blaid sy'n cefnogi'r llwybr glas anghofio am ennill etholiadau yng Nghasnewydd am genhedlaeth."
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod cefnogi'r llwybr du, ac yn siarad ar raglen Sunday Politics y BBC, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood y byddai'r llywodraeth mewn perygl os ydyn nhw'n "parhau i fod yn anhyblyg".
Dywedodd bod y llywodraeth angen cefnogaeth plaid arall i basio mesurau, ac ychwanegodd y byddai 12 AC Plaid yn "ystyried yn ofalus iawn beth i wneud" gyda'u pleidleisiau.