Apêl arweinwyr Cymru i aros yn yr Undeb Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn cefnogi'r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl datganiad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ac Arweinydd yr Wrthblaid Leanne Wood: "Mae llawer yn y fantol i Gymru dros y misoedd nesaf, yn enwedig y goblygiadau i'n gwlad pe bai'r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Fel pleidiau pro-Ewropeaidd bydd Llafur yng Nghymru a Phlaid Cymru yn parhau i weithio gyda'i gilydd yn ysbryd cydweithrediad adeiladol i hyrwyddo buddiannau aelodaeth o'r UE i Gymru ac i ymgyrchu o blaid Aros.
"Yn dilyn trafodaethau adeiladol a chadarnhaol am flaenoriaethau cyffredin y Cynulliad newydd, mae Llafur yng Nghymru a Phlaid Cymru yn gytun fod Cymru'n gryfach, yn saffach ac ar ei hennill yn Ewrop.
"Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu'r buddiannau hyn yn cynnwys hawliau yn y gweithle, mynediad i fusnesau i'r farchnad sengl, ac yn lleihau ein cyfraniad wrth wynebu heriau rhyngwladol megis newid hinsawdd a datrys gwrthdaro.
"Gyda'n gilydd, rydym yn annog pobl i bleidleisio i Aros ar Fehefin 23ain."
'Agwedd bositif'
Yn y cyfamser, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies bod angen agwedd mwy positif gan ddwy ochr yn y ddadl, gydag union fis i fynd cyn y bleidlais.
Mae Mr Davies o blaid gweld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac wrth ysgrifennu i'r Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd: "Yn yr wythnosau olaf o'r ymgyrch mae'n amser am agwedd mwy positif gan bob ochr.
"Os ydych o blaid yr ymgyrch i aros yn yr Undeb, yna byddwch yn onest am yr hyn y mae'n ei feddwl i ddyfodol y wlad hon, achos rwy'n sicr fod digonedd o bobl o blaid yr UE yn mabwysiadu mwy a mwy o weithgarwch cenedl, fel codi trethi neu reolaeth dros bolisi iechyd.
"Ond nid dyma'r hyn sy'n cael ei gyflwyno i bleidleiswyr, sydd yn cael eu hybu i ofni'r syniad o newid - a dim yn cael cyfle i gefnogi delwedd bositif."
Rhybudd y Canghellor
Mewn datblygiad arall fe hawliodd y Canghellor y San Steffan, George Osborne, y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd beryglu cymaint â 20,000 o swyddi yng Nghymru.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Trysorlys mae cyfanswm o 800,000 o swyddi yn y fantol ym Mhrydain.
Fe wrthodwyd y ddadl gan y cyn weinidog Ceidwadol Iain Duncan Smith - roedd yr adroddiad yn anwybyddu manteision gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai.