Band Cymru: Band Tredegar yn ennill

  • Cyhoeddwyd
band tredegar

Band Tref Tredegar o dde Cymru yw enillwyr cystadleuaeth Band Cymru ar S4C.

Mae'r seindorf yn hawlio tlws a gwobr o £10,000.

Ar ôl rowndiau o gystadlu - gan gynnwys 12 band chwyth, pres a jazz - roedd yn rhaid i'r beirniaid ddewis un enillydd terfynol mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Sul.

Llwyddodd pedwar band i gyrraedd y rownd derfynnol, sef Band Tref Tredegar, Band Pres Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Brass Beaumaris a Band Dinas Caerdydd (Melingriffith).

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Mae cystadleuaeth Band Cymru wedi cydio yn nychymyg y gynulleidfa sy'n profi nad gwlad y gân yn unig yw Cymru ond hefyd gwlad yr offerynwyr.

"Hoffwn longyfarch Band Tref Tredegar ar ennill Band Cymru 2016."