Cytundeb newydd i reolwr Cymru, Chris Coleman

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod rheolwr Cymru Chris Coleman wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd arall, nes Cwpan y Byd 2018.

Roedd cytundeb presennol Coleman, 45, yn dod i ben ar ôl pencampwriaethau Euro 2016.

Mae Coleman wedi arwain Cymru i rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau pêl-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958.

Disgrifiad,

Ian Gwyn Hughes sy'n trafod pwysigrwydd y cytundeb i'r rheolwr, y chwaraewyr a'r cefnogwyr

Cadarnhad

Roedd sôn wedi bod dros y penwythnos y byddai cytundeb Coleman yn cael ei ymestyn, ac fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau a chyhoeddi manylion y cytundeb mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun.

Cafodd Coleman, sydd wedi rheoli Fulham a Coventry City yn y gorffennol, ei benodi'n rheolwr y tîm rhyngwladol ym mis Ionawr 2012, yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

Bydd gêm gyntaf Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Slofacia yn Bordeaux ar 11 Mehefin, cyn wynebu Lloegr yn Lens a Rwsia yn Toulouse.

Bydd yr ymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2018 yn dechrau ym mis Medi yn erbyn Moldova.

Disgrifiad,

Ymateb cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones