Prifysgol Aberystwyth: Sefydlu campws yn 'wirion bost'

derec
Image caption Roed yr Athro Derec Llwyd Morgan yn is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth am bron i ddeng mlynedd

Mae cyn is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi beirniadu'r penderfyniad i sefydlu campws newydd ar ynys yng Nghefnfor India ar ôl iddi ddod i'r amlwg mai 40 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru i astudio yno eleni.

Dywedodd yr Athro Derec Llwyd Morgan bod y niferoedd, sydd wedi dod i law BBC Cymru Fyw, yn dangos mai syniad "gwirion bost" oedd sefydlu'r safle ym Mauritius.

Ychwanegodd yr Athro Morgan, oedd wrth y llyw rhwng 1994 a 2004, y dylai Prifysgol Aberystwyth ganolbwyntio ar broblemau sy'n agosach i adref.

Fe wrthododd y brifysgol gais am gyfweliad, ond dywedodd llefarydd ar ei rhan ei bod yn gobeithio "adeiladu'n sylweddol" ar y niferoedd o fewn y blynyddoedd nesa'.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion hefyd wedi mynegi ei "bryder" am y niferoedd.

Dywedodd Mark Williams y bydd yn cysylltu â Phrifysgol Aberystwyth i drefnu cyfarfod er mwyn cael "eglurhad".

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Campws Prifysgol Aberystwyth ym Mauritius

Niferoedd

Mae prifysgolion Wolverhampton a Middlesex yn Lloegr hefyd wedi agor campws dros y môr ym Mauritius.

Roedd tua 90 o fyfyrwyr wedi cofrestru i astudio yn y ddwy yn eu blwyddyn gyntaf ar yr ynys, yn ôl ystadegau gan reolydd addysg uwch y wlad.

Ond yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Wolverhampton eu bod yn cau'r campws, bedair blynedd ar ôl iddo agor.

Cafodd campws Mauritius Prifysgol Aberystwyth ei agor yn hydref 2015, mewn partneriaeth gyda chwmni lleol yno, Boston Campus Limited.

Nhw oedd yn gyfrifol am y gost o adeiladu'r campws, sy'n gallu darparu ar gyfer 2,000 o fyfyrwyr, gyda'r incwm o'r ffioedd dysgu yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y brifysgol a Boston Campus.

Cost

Erbyn diwedd mis Ebrill, y gost i Brifysgol Aberystwyth o sefydlu'r campws ym Mauritius oedd ychydig dros £600,000.

Mae'r ffigwr yn ymwneud â chyflogau staff y brifysgol, gyda'r rhan fwyaf ar secondiad o Aberystwyth.

Mae'r campws newydd yn cynnig nifer o gyrsiau gwahanol mewn busnes, cyfrifeg a'r gyfraith.

Tan nawr, roedd Prifysgol Aberystwyth wedi gwrthod datgelu nifer y myfyrwyr oedd wedi cofrestru yno.

Daeth y ffigwr o 40 yn y flwyddyn academaidd hon yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd dau gyfnod ble bu'n bosib cofrestru eleni, mis Hydref 2015 a Mawrth 2016.

Image copyright Prifysgol Aberystwyth

'Gwirion bost'

Yn ymateb i'r ffigwr, dywedodd yr Athro Morgan: "Dwi'n meddwl ei fod o'n benderfyniad dwl iawn mynd i wlad bell, gan hysbysebu yn Abu Dhabi a llefydd felly.

"Mae'r fenter yn wirion bost. Mae (Prifysgol) Aberystwyth wedi mynd lawr ym mhob tabl ym Mhrydain, byddai'n llawer gwell canolbwyntio adnoddau ar staff da a denu mwy o fyfyrwyr gartref.

"Mae'r tabl ymchwil yn ddifrifol, er bod myfyrwyr yn ddigon bodlon ar y lle ond nid yr ansawdd.

"Ddylen nhw byth wedi mynd a chodi campws heb sicrhau bod digon o bobl yn (astudio) yn Aberystwyth ei hun."

'Pryderus'

Dywedodd yr AS Mr Williams: "Tra 'mod i'n credu bod hybu Prifysgol Aberystwyth ar y llwyfan rhyngwladol yn allweddol, a bod y datblygiad yn ei gyfnod ffurfiannol, mae gen i ddiddordeb mawr clywed y dehongliad o'r ffigyrau pryderus yma gan y brifysgol yn uniongyrchol. Byddaf yn cysylltu â nhw i drefnu cyfarfod er mwyn cael eglurhad sydd wir ei angen."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "O ystyried bod hwn yn gyfnod cynnar i ddatblygiad campws Mauritius, mae'r nifer cychwynnol o 40 myfyriwr yn ddechrau positif a llwyddiannus.

"Rydym, fodd bynnag, yn gobeithio adeiladu yn sylweddol ar hwn dros y blynyddoedd nesa'.

"Mae sefydlu campws dramor yn gynyddol gyffredin i brifysgolion y Deyrnas Unedig ac rydym yn credu y gall Prifysgol Aberystwyth chwarae rôl allweddol drwy ddarparu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr er mwyn i fyfyrwyr gael mynediad i addysg o safon, myfyrwyr a fyddai fel arall ddim yn gallu cael mynediad i'r mathau yma o gyrsiau o ganlyniad i faterion ariannol neu deithio."

'Gwadu camymddwyn'

Mae'r sefydliad wedi bod dan y lach dros y blynyddoedd diwethaf, gyda beirniadaeth o'i is-ganghellor, April McMahon.

Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw, roedd y sefydliad yn wynebu cyhuddiadau o fwlio, ond fe wnaeth hi wadu unrhyw gamymddwyn.

Roedd Ms McMahon hefyd wedi gwadu bod morâl yn isel, gan ddweud bod ei thîm rheoli yn gorfod gwneud penderfyniadau gan ailfuddsoddi arian oedd heb ddigwydd o dan eu rhagflaenwyr.

Fe gyhoeddodd hi'r llynedd y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd ym mis Gorffennaf eleni pan fydd ei thymor yn dod i ben.

Mae John Grattan yn gweithio ar y cyd gyda Ms McMahon fel is-ganghellor dros dro, tra bod y brifysgol yn chwilio am olynydd.