Llofruddiaeth Cwm Ogwr: Gwrandawiad Llys
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 49 oed wedi ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd, wedi ei gyhuddo o lofruddio pensiynwr.
Mae Andrew Seal wedi ei gyhuddo o lofruddio Gwilym Jones, 73 oed, yng Nghwm Ogwr ger Pen-y-bont.
Bu farw Mr Jones ar ôl iddo gael ei drywanu ar Fai'r 15fed.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio dynes 21 oed.
Fe fydd Mr Seal yn ymddangos ger bron y llys eto ym Mis Gorffennaf.
Cafod ei gadw yn y ddalfa.