Morgannwg mewn sefyllfa gref yn erbyn Essex
- Cyhoeddwyd

Will Bragg oedd arwr Morgannwg ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.
Fe sgoriodd Bragg 119 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 295 am 3 wiced ar ddiwedd y chwarae.
Fe gafodd gefnogaeth dda gan Mark Wallace (40), Chris Cooke (59) ac Aneurin Donald (44 h.f.a.).
Gyda batiad cyntaf Essex yn cau ar 313, roedd angen dechrau da ar y tîm cartref.
Er iddyn nhw golli Jacques Rudolph heb sgorio yn y drydedd pelawd, roedd y rhediadau'n llifo wedi hynny.
Mae'r cyfan yn golygu fod gan Morgannwg fantais o 242 gyda saith wiced yn weddill.
Pencampwriaeth y Siroedd - diwedd y trydydd diwrnod:
Morgannwg: (batiad cyntaf) - 260
(ail fatiad) - 295 am 3
Essex: (batiad cyntaf) - 313