Cartrefi gofal Sir Ddinbych: Ystyried gwahanol opsiynau
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi caniatâd i swyddogion ystyried opsiynau gwahanol ar ddyfodol pedwar o gartrefi gofal yr awdurdod.
Daw hyn wedi ymgynghoriad cyhoeddus ar newid y ffordd mae'r cartrefi yng Nghorwen, Dinbych, Y Rhyl a Rhuthun yn cael eu rhedeg. Ymhlîth yr opsiynau dan ystyriaeth mae trosglwyddo cartrefi i bartneriaid allanol posib, a darparu mwy o ofal yn y gymuned yn hytrach na gwelyau mewn cartrefi gofal.
Mae 'na wrthwynebiad yn lleol i'r cynlluniau i geisio arbed tua £700,000. Nid dyma'r awdurdod cyntaf i ystyried cynllun tebyg. Yr wythnos diwethaf, fe gytunodd Cyngor Wrecsam i gau'r cartref gofal olaf dan eu rheolaeth.
Argymhellion
Cytunwyd ar yr argymhellion canlynol gan y Cabinet yn y cyfarfod yn Neuadd y Sir, Rhuthun ddydd Mawrth.
- Hafan Deg (Y Rhyl) - y cyngor i edrych ar bartneriaeth posib â sefydliad allanol gyda'r bwriad o drosglwyddo'r adeilad iddynt, gan gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn yr adeilad ac, yn ogystal, galluogi asiantaethau'r trydydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl hŷn.
- Dolwen (Dinbych) - y cyngor i edrych ar bartneriaeth posib gyda sefydliad allanol a gyda'r bwriad o drosglwyddo'r adeilad a'r gwasanaeth cyfan iddynt, gan sicrhau bod Dolwen wedi'i gofrestru i ddarparu gofal IMH gyda'r dydd a gofal preswyl. Dylai'r gwaith mewn perthynas â'r opsiwn hwn gynnwys cost gymharol, ansawdd y gofal a dadansoddi darpariaeth Gymraeg rhwng y gwasanaeth presennol ac unrhyw wasanaeth posibl yn y dyfodol;
- Awelon (Rhuthun) - y cyngor i yn edrych yn fanwl ar y tri opsiwn a gyflwynwyd mewn perthynas â'r sefydliad hwn a bod y gwaith mewn perthynas â'r opsiynau hyn yn cynnwys costau cymharol, ansawdd y gofal a dadansoddi darpariaeth Gymraeg rhwng y gwasanaeth presennol a phob un o'r tri opsiwn;
- Cysgod y Gaer (Corwen) - y cyngor i edrych ar fynd i bartneriaeth gyda'r budd-ddeiliaid perthnasol i ddatblygu'r safle yn 'ganolfan gefnogaeth' gan gynnig cyfleusterau gofal preswyl a gofal ychwanegol ynghyd â gofal yn y cartref a gwasanaeth cefnogaeth i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod lleol a phoblogaeth ehangach Corwen a'r ardal gyfagos.
'Disgwyliadau'
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Gofal Cymdeithasol: 'Mae disgwyliadau pobl ynghylch sut maent am fyw eu bywydau wrth iddynt heneiddio yn newid. Mae pobl eisiau ac yn mynnu rheolaeth dros eu bywydau eu hunain a'r rhyddid i ddewis sut i fyw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dweud wrthym nad ydynt eisiau byw mewn cartref gofal preswyl pan fyddant yn hŷn. Maent yn dweud y byddai'n well ganddynt fyw yn eu cartref eu hunain a chael eu cefnogi i fod mor annibynnol ag y bo modd am gymaint o amser ag y bo modd.
"Dyna pam yr ydym wedi cynnal adolygiad o'n darpariaeth gofal mewnol, mewn ymateb i anghenion newidiol y cyhoedd.
"Rydym yn credu'n gryf mai'r cynigion a gytunwyd gan y Cabinet yw'r ffordd ymlaen ar gyfer y gofal a ddarparwn ar hyn o bryd yn y pedwar lleoliad.
"Rydym wedi ymgynghori'n eang ar y cynigion, ac mewn gwirionedd, mae wedi bod yn un o'r ymgynghoriadau mwyaf dwys a manwl a wnaed erioed gan y Cyngor. Er bod llawer o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad a sylw helaeth yn y wasg a thrafodaethau chyfryngau cymdeithasol, cawsom ychydig iawn o ymatebion ffurfiol ac ychydig iawn a gyflwynwyd yn y ffordd o dystiolaeth i wrthwynebu'r hyn a gytunwyd heddiw.
"Mae'r gost gymharol uchel o redeg ein cartrefi gofal, o'i gymharu â chartrefi yn y sector annibynnol ac o gymharu â chost gofal ychwanegol hefyd yn ystyriaeth allweddol."