Cerydd i aelod UKIP am 'iaith rywiaethol'

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,
Elin Jones: Wedi siarad gyda Neil Hamilton am ei sylwadau

Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cerydd i Neil Hamilton o UKIP am ddefnyddio iaith rywiaethol yn erbyn dau aelod etholedig.

Fe gafodd Mr Hamilton ei feirniadu ar ôl iddo ddisgrifio Leanne Wood a Kirsty Williams fel rhan o 'harîm Carwyn Jones', am iddynt gefnogi ei enwebiad fel Prif Weinidog.

Ddydd Mawrth dywedodd y Llywydd Elin Jones ei bod wedi cael trafodaeth breifat gyda Mr Hamilton a'i fod ef wedi derbyn ei barn hi ynglŷn â'i iaith "annerbyniol".

Dywedodd Mr Hamilton wrth ACau nad oedd yn fwriad ganddo i roi loes i unrhyw un.

'Bywiog a grymus'

Wrth agor sesiwn dydd Mawrth dywedodd Ms Jones ei bod wedi derbyn cwynion am sylwadau wnaeth arweinydd grŵp UKIP yn ei araith gyntaf yn y Cynulliad ddydd Mercher diwethaf.

Dywedodd Ms Jones nad oedd ei "iaith rywiaethol ac ensyniadau rhywiol" yn cyd-fynd a safonau'r Cynulliad.

Dywedodd ei bod hi am weld trafodaethau mwy "fywiog a grymus" yn y Cynulliad, ond fod angen cyd-fynd a'r rheolau.

Wrth ymateb i'r Llywydd dywedodd Mr Hamilton ei fod wedi defnyddio iaith o'r fath er mwyn creu delweddau - delweddau oedd mor chwerthinllyd na ddylid eu cymryd o ddifrif.

Roedd yn ceisio, meddai, cyflwyno ei neges mewn ffordd ysgafn am Blaid Cymru a'r Democrataidd Rhyddfrydol yn "rhannu'r un gwely a Llafur."

Wrth i ACau ddechrau anesmwytho a gwawdio, fe wnaeth y Llywydd ofyn i Mr Hamilton roi terfyn ar ei sylwadau, gan ddweud nad oedd am weld digwyddiadau'r wythnos diwethaf yn cael eu hailadrodd.