Cyhoeddi archif ffilmiau o gefn gwlad y gogledd
- Published
Mae'r Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (BFI) wedi rhyddhau nifer o ffilmiau archif o ogledd Cymru fel rhan o gynllun Cefn Gwlad - cynllun sy'n rhyddhau dros 750 o ffilmiau rhwng 1900 a 1999 ac yn portreadu cefn gwlad ar ffilm.
Mae uchafbwyntiau'r ffilmiau archif yn cynnwys cyfres o ddramau doniol wedi eu lleoli yn Llanymawddwy, i'r gogledd o Ddinas Mawddwy. John W. Meredith oedd yn gyfrifol am y gwaith, ac roedd yn cynhyrchu'r dramau tra'n aros gyda ffrindiau ar fferm Penygeulan bob haf.
Byddai'r criw yn gosod y cyfarpar ffilmio ar 1 Awst bob blwyddyn cyn ffilmio darnau oedd yn cynnwys Y Gwersyll Cymreig (1929), Ffarmwr John (1930), Diwygiad Jack (1931) ag Ein Edifeirwch (1932).
Yn 1936 fe aeth Mr Meredith ati gyda'r Parchedig H.E. Hughes a Richard Elis Jones i gynhyrchu ffilm Gwylliaid Cochion Mawddwy, oedd yn ailadrodd hanes chwedl y Gwylliaid ym mryniau'r ardal. Cafodd ffermydd, caeau ag actorion lleol eu defnyddio, ac roedd y ffilm mor boblogaidd fel y cafodd un arall mewn lliw ei ffilmio yn 1938. Er i'r cynhyrchwyr gychwyn ar y gwaith, ni chafodd y ffilm ei chwblhau erioed.
'Ehangu cynulleidfa'
Mae Megan Huggins yn wyres i Richard Elis Jones. Dywedodd: "Rwy'n credu bod digideiddio'r gwaith yn ffordd wych o ehangu cynulleidfa, nid yn unig am hanes y Gwyllion a ffilmiau cynnar gan amaturiaid, ond lleoliad Dyffryn Mawddwy a'r bobl oedd yn byw a gweithio yng nghefn gwlad yn y 1930au.
"Mae gen i ddau o hen deidiau, hen ewythr, taid, nain, ewythr a mam yn ymddangos yn y ffilm ac mae'n emosiwn grymus i'w gweld, y newid yn eu hwynebau a'u symudiadau - sydd mor wahanol i lun llonydd.
"Yn fy nheulu i yn unig mae aelodau'r teulu yn Arizona ac Awstralia fydd yn gallu gweld eu cyndeidiau ar ffilm."
Dywedodd Robin Baker, prif guradur y BFI: "Mae'r ffilmiau hyn yn cynnig cofnod heb ei hail o'n treftadaeth cefn gwlad yn ei holl ogoniant ad draws yr Ugeinfed Ganrif. Mae'n brofiad gwych ag emosiynol i wylio'r ffilmiau hyn. Fe fydd pobl sydd yn byw a gweithio yng nghefn gwlad yn rhyfeddu i weld sut yr oedd eu cyndeidiau'n arfer byw.
"Fel llawer o drigolion y ddinas, fe ges i fy ngeni a'm magu yng nghefn gwlad, ac mae'r casgliad hwn o ffilmiau'n cynnig hanes cymdeithasol rhyfeddol a gwirioneddol o gefn gwlad Prydain. Mae'n bortread cryf o gongl o'n bywyd cenedlaethol sydd yn aml yn cael ei anghofio."
Mae ffilmiau eraill o fywyd cefn gwlad gogledd Cymru'n cynnwys Cyllideb Amserol Ar Ynys Môn (1929), sydd yn dangos hen arfer o daflu ceiniogau poeth i bobl leol ar ddiwedd Helfa Môn, Gwlad y Gân (1960), sydd yn dangos gogoniant Eryri i ymwelwyr, a Gogledd Cymru, Lloegr: Gwlad y Cestyll a'r Rhaeadrau (1907). Cafodd y ffilm honno ei chynhyrchu'n wreiddiol ar gyfer cwmni rheilffordd LNWR ac fe gafodd ei dangos yn Arddangosfa White City yn Llundain yn 1909.
Mae modd gwylio'r ffilmiau ar wefan y BFI.