Daniel Shepherd yn ddieuog o ddynladdiad cyn chwaraewr rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sgiwen ger Castell-nedd wedi ei gael yn ddieuog o ddynladdiad cyn chwaraewr rygbi yn Abertawe.
Bu farw Jonathan Thomas, 34, ar ôl cael ei daro yng nghefn ei ben yng nghanol Abertawe ym mis Tachwedd y llynedd.
Roedd Daniel Shepherd, 23, wedi gwadu'r cyhuddiad gan ddweud ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun pan darodd Mr Thomas y tu allan i dafarn y Cross Keys.
Bu farw Mr Thomas, cyn chwaraewr gydag Abertawe ac Aberafan, yn Ysbyty Treforys ar ôl y digwyddiad.
Mewn dagrau
Fe adawodd Mr Shepherd y llys mewn dagrau ar ôl clywed penderfyniad y rheithgor.
Clywodd y llys fod Mr Shepherd wedi bod yn yfed gyda ffrindiau pan ddigwyddodd y ffrwgwd gyda Mr Thomas.
Fe wnaeth o daro Mr Thomas yng nghefn ei ben, gan achosi i wythïen fawr yn ei wddf rwygo.
Mynnodd Mr Shepherd ei fod yn amddiffyn ei hun.
Ar ôl dros 10 awr o drafod, penderfynodd y rheithgor o saith dyn a pum dynes fod Mr Shepherd yn ddieuog.
'Colled fawr'
Ar ôl yr achos fe wnaeth teulu Jonathan Thomas ryddhau datganiad:
"Ni fydd unrhyw beth yn dod a Jonathan yn ôl a bydd yr un dyfarniad yn ein helpu ni fel teulu.
"Ni fyddwn byth yn anghofio Jonathan. Roedd yn frawd, mab ac ŵyr anhygoel ac mae yna golled fawr ar ei ôl.
"Fe fyddwn ni fel teulu yn ei fethu ac felly hefyd ei gylch eang o ffrindiau.
"Hoffwn ddiolch i'n teulu a ffrindiau am eu cymorth."
Dywed y teulu fod cronfa arbennig sydd wedi ei sefydlu er cof am y cyn chwaraewr rygbi eisoes wedi codi £10,000 ar gyfer elusennau lleol.