Criced: Gêm gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i Forgannwg fodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Essex ar y diwrnod ola o chwarae o bedwar diwrnod yng Ngerddi Soffia yn y brif ddinas ddydd Mercher.
Bu bron i'r tîm cartref a chipio buddugoliaeth nodedig yn erbyn Essex, sydd ar frig yr Ail Adran, ac roedd Morgannwg wedi gosod targed o 334 mewn 70 pelawd i'r ymwelwyr.
Collodd Essex dair wiced yn yr 18 pelawd cyntaf, cyn i Nick Browne sgorio 71 ar eu rhan wrth chwarae'n amddiffynol.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Essex ar y brig gyda mantais o saith pwynt, tra bod Morgannwg ar waelod y tabl, er eu bod wedi gwella'n sylweddol yn ystod dau ddiwrnod eu gêm yn erbyn Essex.