Marwolaeth babi Penygroes: Dim cyhuddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu'r gogledd wedi cadarnhau na fydd dyn a dynes gafodd eu harestio wedi marwolaeth babi yng Ngwynedd, yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.
Fe gafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o ymosod, yn dilyn marwolaeth y babi 25 diwrnod oed ym mis Awst y llynedd.
Mae disgwyl cwest i farwolaeth y babi o Benygroes, Gwynedd, gael ei gynnal ym mis Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Nid yw'r ddau berson gafodd eu harestio bellach ar fechnïaeth, ac mae'r ymchwiliad i'r farwolaeth wedi dod i ben."