Ecstasi yn chwalu breuddwyd pêl-droediwr ifanc o Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Mold Crown Court
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Roberts eisiau defnyddio ei brofiad ef i helpu eraill

Mae llanc 18 oed gollodd ei brentisiaeth gyda chlwb pêl-droed proffesiynol oherwydd ei gysylltiad gyda chyffuriau wedi dweud ei fod am ddefnyddio ei brofiadau i helpu eraill.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Daniel Roberts o Landderfel ger Y Bala, oedd yn brentis gyda chlwb pêl-droed Wrecsam, nawr yn bwriadu ysgrifennu llyfr am ei brofiadau gyda chymorth ei fodryb, yr awdures Bethan Gwanas.

Fe wnaeth Roberts gyfaddef bod ag ecstasi yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi, ac o gyflenwi'r cyffur, pan gafodd ei arestio ym mis Chwefror.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Rhys Rowlands nad oedd am gadw at y canllawiau dedfrydu arferol, a chafodd Roberts ddedfryd ohiriedig o ddwy flynedd.

Hefyd bydd rhaid i Roberts wneud 200 awr o waith di-dâl, bydd dan gyrffyw o 21:00 tan 06:00 am bedwar mis, a chafodd ddirwy o £500 a gorchymyn i dalu costau o £440.

Eisiau 'rhybuddio eraill'

Penderfynodd clwb pêl droed Wrecsam ddirwyn prentisiaeth Roberts i ben ar ôl iddo gael ei arestio ar 20 Chwefror.

Clywodd y llys gan fodryb Roberts, Bethan Gwanas, a dywedodd ei bod hi a'r diffynnydd am ddefnyddio ei stori er mwyn helpu eraill i beidio dilyn yr un trywydd.

Dywedodd Roberts ei fod hefyd yn bwriadu ymweld ag ysgolion uwchradd a chynradd er mwyn sôn am ei hanes ac i rybuddio eraill i beidio â gwneud yr un camgymeriad.

Clywodd y llys fod Roberts wedi cael cynnig cyffuriau am y tro cyntaf pan roedd yn 17 oed mewn rali ffermwyr ifanc.

Cafodd Roberts ei ddal ar gamerâu cylch cyfyng yn ymddwyn mewn modd amheus ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i dabledi ecstasi gwerth £120.

Yn ogystal â cholli ei brentisiaeth gyda chlwb Wrecsam fe wnaeth golli ei le ar gwrs gwyddoniaeth chwaraeon yng Ngholeg Iâl, Wrecsam.

'Eithriad'

Dywedodd y barnwr: "Rwy'n derbyn eich bod yn edifar am beth ddigwyddodd a'r effaith mae hyn wedi ei gael ar eich teulu."

Ychwanegodd y barnwr bod cyfnod o garchar yn dilyn mewn achosion o'r fath, ond dywedodd: "Ond rwyf wedi cael fy mherswadio i wneud eithriad y tro hwn."

Wrth roi tystiolaeth ar ran ei nai dywedodd Bethan Gwanas ei bod hi yn ysgrifennu llyfrau ar gyfer pobl ifanc, a phobl ifanc nad oedd â diddordeb mewn darllen.

Ychwanegodd fod y syniad o ddefnyddio stori a hanes Roberts i rybuddio ieuenctid am beryglon cyffuriau wedi dod gan ei nai.

"Mae o wedi rhoi syniadau i mi, mae ganddo ddychymyg anhygoel, mae'n hynod greadigol," meddai.