Diwedd cyfnod i lys eiconaidd Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae cyfnod llys eiconaidd yng Nghaerfyrddin ar fin dod i ben.
Dyma un o'r 10 o lysoedd yng Nghymru sydd wedi eu clustnodi i gau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn arbed arian, ac mae gan yr adeilad hanes cyfoethog.
Ar y balconi yn 1966 y cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod wedi ei ethol yn yr Aelod Seneddol cyntaf i Blaid Cymru.
Yma hefyd oedd achos llys terfysgwyr Beca yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd rhai o'r arweinwyr eu halltudio i Awstralia.
Cafodd Ronnie Harries - un o'r dynion olaf i gael ei grogi yng Nghymru - ei ddedfrydu i farwolaeth yma hefyd yn 1953. Cafodd ei ganfod yn euog o lofruddio perthnasau iddo, Phoebe a John Harries.
Ar draws Cymru bydd llysoedd ym Mhen-y-bont, Castell-nedd Port Talbot, Pontypridd a Wrecsam yn cau yn gyfan gwbl tra bydd Dolgellau, Caergybi a Llangefni yn cau wedi i lefydd eraill gael eu canfod.
Bydd achosion sifil, teulu, tribiwnlys a phrofiant yn aros yng Nghaerfyrddin tra bydd achosion llys y goron yn cael eu clywed yn Abertawe. Bydd achosion llys ynadon yn cael eu clywed yn Llanelli.