Angen eglurder ynglŷn â chynlluniau ad-drefnu cynghorau

  • Cyhoeddwyd
CynghorauFfynhonnell y llun, Thinkstock/PA

Mae adroddiad fydd yn cael ei drafod gan arweinwyr cynghorau wedi datgan bod angen eglurder ar frys ynglŷn â chynlluniau i ad-drefnu llywodraeth leol.

Mae papur Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn dweud bod yr "heriau o'n blaen yn rhai dwfn" gyda nifer o wasanaethau mewn sefyllfa o argyfwng.

Roedd y cyn-Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews wedi dweud y dylai'r 22 o gynghorau gael eu lleihau i wyth neu naw.

Ond does dim cefnogaeth eang i'r cynlluniau yn y Cynulliad nag o fewn y cynghorau.

'Heriau dwfn'

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi dweud ei bod yn "amlwg" na fydd y cynlluniau gafodd eu cynnig cyn yr etholiad yn cael cefnogaeth ar draws y Cynulliad.

Mae hefyd wedi dweud ei fod yn siarad gyda'r pleidiau eraill am ddyfodol llywodraeth leol.

Dywed yr adroddiad: "Mae'r heriau o'n blaen yn rhai dwfn.

"Mae nifer o wasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa o argyfwng a nawr mwy nag erioed mae angen strategaeth a phartneriaeth ar draws llywodraethau sydd wedi eu hethol yng Nghymru er mwyn gweld ffordd ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Steve Thomas bod yr ansicrwydd yn "cael effaith ar ysbryd staff"

Effeithio morâl gweithwyr

Cyn y cyfarfod dywedodd y Prif Weithredwr y gymdeithas, Steve Thomas wrth BBC Cymru nad oedd eu haelodau eisiau gosod "llinell derfyn artiffisial" am mai dim ond megis dechrau yn ei swydd mae ysgrifennydd newydd llywodraeth leol, Mark Drakeford.

Ond ychwanegodd: "Byddai'n braf cael eglurder ynglŷn â'r ffordd mae'r gwynt yn chwythu.

"Os daw hynny mewn mis, dau fis, mewn ffordd rydyn ni wedi byw gyda'r ansicrwydd am dair blynedd ac fe allwn ni barhau i fwy gyda'r ansicrwydd.

"Ond mae'r ansicrwydd yn cael effaith ar ysbryd staff. Mae'n llesgáu pobl sydd yn gweithio o fewn llywodraeth leol.

"Mae'n stopio unrhyw gydweithio gallai ddigwydd achos fydd pobl ddim yn cydweithio gydag awdurdod os nad ydyn nhw yn meddwl y byddan nhw yn uno gyda nhw.

"Mae'n achosi problem sydd angen ei datrys."

Cyfarfod

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford wedi dweud y bydd yn cyfarfod gydag arweinwyr cynghorau cyn penderfynu'r ffordd ymlaen.

Dywedodd: "Rwy'n deall bod angen eglurder ynghylch yr aildrefnu, ond er mwyn symud ymlaen rhaid i ni ddatblygu dull gweithredu y mae modd ei gyflawni ac sy'n gynaliadwy.

"Dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ymysg eraill, ac yn gwrando ar eu sylwadau cyn ystyried sut i weithredu yn y tymor hir. Mae pawb am ein gweld yn cael y broses hon yn iawn."