Chwilio yn y môr ger Sir Benfro am ddyn ar goll o long
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio am ddyn oddi ar arfordir Sir Benfro wedi pryderon bod yr unigolyn wedi disgyn o fwrdd llong.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i griw'r llong sylwi bod y dyn ar goll.
Cafodd ei weld ar y llong amser cinio, ryw dri chwarter awr cyn i'r llong gyrraedd Doc Penfro o Iwerddon.
Mae Irish Ferries wedi cadarnhau fod y dyn yn un o'r criw ac yn gweithio yn y maes arlwyo.
Ar ôl i'r cwch hwylio yn ôl tuag at Rosslare yn hwyrach yn y prynhawn mi wnaeth y rhai ar ei bwrdd sylweddoli nad oedd y dyn wrth ei waith.
Mae hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan a badau achub wedi eu galw i gynorthwyo'r chwilio ond wedi rhoi'r gorau iddi erbyn hyn. Bydd y chwilio yn parhau ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd Irish Ferries: "Rydyn ni'n amlwg yn ofidus iawn bod y dyn yma ar goll. Does gennym ni ddim rheswm i ddod i unrhyw gasgliadau ar hyn o bryd ac mi ydyn ni'n gobeithio y bydd yn cael ei ddarganfod yn fyw ac yn iach."