Dyn wedi marw mewn damwain ddiwydiannol yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 65 oed wedi marw mewn damwain ddiwydiannol yn Sir Fynwy.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Heol Manson, ger Trefynwy, am 12:34 ddydd Mercher.
Dywedodd y llu bod y dyn o Dredegar, Blaenau Gwent, wedi cael ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ar y cyd rhwng Heddlu Gwent a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.