Meddyg yn ddieuog o ddynladdiad

  • Cyhoeddwyd
Dr Joanne Rudling
Disgrifiad o’r llun,
Dr Joanne Rudling yn gadael y llys ddydd Gwener

Mae meddyg teulu wedi cael ei dyfarnu yn ddieuog o ddynladdiad bachgen 12 oed, yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe gyhuddwyd Dr Joanne Rudling o beidio atal marwolaeth bachgen o Frynithel, Blaenau Gwent yn 2012.

Roedd gan Ryan Morse glefyd Addison pan fu farw. Yn ystod yr achos fe gyhuddwyd y meddyg o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Fe wadodd y meddyg iddi fethu a gwneud diagnosis addas, a sicrhau gofal addas ar gyfer cyflwr y bachgen.

Fe ddaeth yr achos i ben ar ôl i'r barnwr ddweud nad oedd gan yr erlyniad achos digon cryf.

Ar 27 Mai cafwyd meddyg teulu arall, Dr Lyndsey Thomas, yn ddieuog o ddynladdiad hefyd.

Bydd Dr Rudling yn wynebu achos llys arall pan fydd yn wynebu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Honnir i gofnodion meddygol gael eu newid yn dilyn marwolaeth y bachgen.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd gan Ryan Morse glefyd Addison pan y bu farw